Dwlu ar Geir Clasur? Mae'r sioe geir flynyddol boblogaidd yn dychwelyd i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ar 29 Mehefin. Dewch draw a gwneud diwrnod ohoni! Edrychwch ar y ceir a sgwrsiwch gyda'u perchnogion, ewch i fwrw golwg ar y ffair grefftau, a'n harddangosfa ryngweithiol newydd sbon, neu cadwch le ar Daith Dywys Danddaearol yr Aur Du.
Bydd yr achlysur yn cael ei gynnal ar y cwrt rhwng 10am a 4pm.
Mae tocynnau ar gyfer y Sioe Ceir Clasur yn costio £3 y pen. Mae tocynnau ar gael yma