Barod i joio?
Byddwn ni'n cynnal Parti Haf yr 80au RhCT ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, ddydd Sadwrn 30 Awst!
Mae'r adloniant yn cynnwys:
Set DJ ‘Back to the 80s’ gan Martin Kemp
Sioe lwyfan '80s Live'
Tears for Beers
Super Choir
Day Fever DJs: Katie Owen a Kay Russant
Bydd Jagger a Woody o Heart FM yn arwain y noson!
Gwisgwch i fyny a dewch i fwynhau noson wefreiddiol o hel atgofion!