Browser does not support script.
Ymunwch â ni ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda ar ddydd Mercher 23 Gorffennaf 2025 i ddysgu am archeoleg a lles. Bydd cyfle gyda chi gael blas ar ein clustffonau Realiti Rhithwir (VR), dysgu am y gwahanol fwydydd yr oedd pobl yn eu tyfu yn y gorffennol, a phlannu rhywbeth i fynd adref gyda chi ar y diwrnod. Byddwch chi hefyd yn dysgu am yr effaith gadarnhaol y mae crefftio’n ei chael ar eich lles, a'r cysylltiad rhwng crefftio ac archeoleg. Ewch i wefan Parc Treftadaeth Cwm Rhondda i gadw lle. Pris y sesiwn y £3 fesul plentyn (oedolion am ddim), a bydd y sesiynau’n cael eu cynnal rhwng 10:00-12:00 ac 13:00-15:00. Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich gweld chi!
Tocynnau yma
Dim canlyniadau yn bodloni eich meini prawf chwilio.
Rhondda Cynon Taf Council - Events
Carfan Achlysuron Rhondda Cynon Taf
Ebost: achlysuron@rctcbc.gov.uk
Ffôn: 01443 424123