Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnal ei Ffair Swyddi hynod lwyddiannus ym mis Mawrth.
Bydd amrywiaeth enfawr o ddarpar gyflogwyr wrth law i gwrdd â chi. Mae modd i'r rheiny sy'n chwilio am swydd neu sydd am symud ymlaen yn eu gyrfa neu wella'u haddysg ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn y Ffair Swyddi.
Bydd yr achlysur yn cael ei gynnal yn Llys Cadwyn, Pontypridd, ddydd Mercher 19 Mawrth 2025. Mae croeso i aelodau o'r cyhoedd alw heibio rhwng 10am a 2pm. Bydd hefyd awr dawel o 9am ar gyfer pobl sydd ag Anhwylder Sbectrwm Awtistig ac anableddau eraill.
Bydd yr achlysur yn cynnwys ystod eang o gyflogwyr, sydd i gyd yn ceisio hyrwyddo a rhannu eu cyfleoedd o ran gyrfaoedd a hyfforddiant.
Bydd yr achlysur hefyd yn cynnwys gweithdai ar ein Cynllun Prentisiaethau a gwneud cais am swydd, ac argymhellion defnyddiol o ran mynychu cyfweliadau.
Mae'r arddangoswyr a'r darparwyr canlynol wedi cadarnhau y byddan nhw'n bresennol: