Skip to main content
 

Cynllun Hamdden Actif 60+

Mae’r Cynllun Hamdden Actif 60+ wedi cael ei gyflwyno ar draws Cymru i annog gweithgaredd corfforol a dewisiadau ffordd o fyw iach ac i leihau anghydraddoldebau ac ynysiad cymdeithasol ymhlith y grŵp oedran 60+. 

Mae’r cynllun wedi’i ariannu gan Chwaraeon Cymru sydd wedi buddsoddi mwy na £1 miliwn yn genedlaethol. Y nod yw cefnogi’r boblogaeth 60+ oed yng Nghymru i fyw yn hirach, i fyw yn well ac i fod yn hapusach trwy wella lefelau gweithgarwch corfforol, hyder, cryfder a chydbwysedd. 

Ar hyn o bryd yn Rhondda Cynon Taf, dyw 78% o oedolion dros 60 oed ddim yn bodloni canllawiau’r Prif Swyddogion Meddygol o gyflawni 150 munud o weithgarwch corfforol bob wythnos. Ar hyn o bryd mae gyda ni 36 sesiwn sy’n cael eu cynnal bob wythnos mewn 6 chanolfan hamdden yn y Fwrdeistref Sirol. 

Dosbarthiadau

Canfolfan Chwaraeon Abercynon 

01443 570022 | CChAbercynon@rctcbc.gov.uk

Dydd Llun 10:30 – Spinfit Dwysedd Isel 

Dydd Mawrth 11:00 – Ymarferion Cylch Dwysedd Isel 

Dydd Mercher 11:00 – Cryfder a Chydbwysedd Effaith Isel 

Dydd Iau 11:00 – Ymarferion Cylch Dwysedd Isel 

Dydd Gwener 10:30 – Synergy Dwysedd Isel

 

Canolfan Hamdden Y Ddraenen Wen

01443 848273 | CHDdraenen-wen@rctcbc.gov.uk

Dydd Llun 10:00 – Campfa Dwysedd Isel 

Dydd Llun 11:00 – Ymarferion Cylch Dwysedd Isel 

Dydd Mawrth 10:30 – Ymarferion Cylch Dwysedd Isel 

Dydd Mercher 10.00 - Campfa Dwysedd Isel

Dydd Mercher 11.00 - Symudedd

Dydd Iau 11:15 – Ymarferion Cylch Dwysedd Isel

 

Canolfan Hamdden Sobell

01685 870111 | CHSobell@rctcbc.gov.uk

Dydd Llun 10:30 – Omnia Dwysedd Isel 

Dydd Llun 11:30 – Bocsymarfer Dwysedd Isel 

Dydd Llun 20:00 – Ioga Dwysedd Isel 

Dydd Mawrth 10:15 – Aqua Dwysedd Isel 

Dydd Mercher 10:30 – Omnia Dwysedd Isel 

Dydd Mercher 12:00 – Ioga Dwysedd Isel 

Dydd Iau 10:15 – Aqua Dwysedd Isel 

Dydd Iau 10:00 – Cryfder a Chydbwysedd 

Dydd Iau 11:00 – Cryfder a Chydbwysedd 

Dydd Gwener 10:30 – Omnia Dwysedd Isel 

Dydd Gwener 11:30 – Ioga Dwysedd Isel 

Dydd Sul 15:00 – Ioga Dwysedd Isel 

Dydd Sul 16:00 – Ioga Dwysedd Isel

 

Llys Cadwyn

01443 562211 | HamddenLlysCadwyn@rctcbc.gov.uk

Dydd Llun 10:00 – Cryfder a Chydbwysedd 

Dydd Llun 11:00 – Ymarferion Cylch Dwysedd Isel 

Dydd Mawrth 10:00 – Erobeg Cadair Freichiau 

Dydd Mawrth 11:00 – Erobeg Dwysedd Isel 

Dydd Iau 10:00 – Ffitrwydd i Ddechreuwyr 

Dydd Iau 11:00 – Ymarferion Cylch Dwysedd Isel 

 

 

Astudiaethau Achos

  • Canolfan Hamdden Sobell - fideo
    • Canolfan Hamdden Sobell - Julie
    • Canolfan Hamdden Sobell - Margaret
  • Canolfan Ffitrwydd Llys Cadwyn - fideo
 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas