Skip to main content
 

Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Cymru

Beth yw e?

Mae Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Cymru (NERS) yn Rhondda Cynon Taf yn rhoi cyfle i'r rheiny sydd ddim yn heini ac sydd â chyflwr iechyd i ymarfer corff yn ddiogel.

Mae rhaglen NERS wedi'i chynllunio i gyflwyno ymarfer corff i bob yn raddol ac mewn modd ysgafn, gan ei wneud yn hwyl ac yn rhan o'ch diwrnod arferol.

Sut ydw i'n ymuno â rhaglen NERS?

Rhaid i chi gael eich cyfeirio at y garfan gan Feddyg Teulu, Nyrs neu Ffisiotherapi.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Byddwch chi'n cael eich gwahodd i fynychu sesiynau ymarfer corff dan oruchwyliaeth y garfan NERS, sydd ar gael yn un o'r canolfannau hamdden canlynol:

  • Canolfan Hamdden Llantrisant
  • Canolfan Hamdden Rhondda Fach
  • Canolfan Chwaraeon Abercynon
  • Canolfan Hamdden Sobell
  • Llys Cadwyn, Pontypridd


Cliciwch yma i weld amserlen bresennol Dosbarthiadau NERS.

Beth sy'n digwydd pan fydda i'n gorffen y rhaglen NERS?

Yn dilyn y rhaglen NERS, mae modd i chi barhau i fod yn heini yn un o’n canolfannau hamdden, gan gynnwys y cyfleusterau hamdden ychwanegol ganlynol:

  • Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda
  • Canolfan Hamdden y Ddraenen Wen 
  • Canolfan Hamdden Tonyrefail
  • Canolfan Chwaraeon Llanilltud Faerdref

Llwyddiannau

Cliciwch isod i fwrw golwg ar rai o lwyddiannau rhaglen NERS yn Rhondda Cynon Taf.

Tystebau

"A minnau'n Aelod o'r Cabinet ar faterion Hamdden yn Rhondda Cynon Taf, rwy' bob tro’n falch o weld trigolion yn mwynhau ffordd heini o fyw, beth bynnag fo eu lefel ffitrwydd. Mae gyda Chynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Cymru hanes llwyddiannus ac rwyf wedi derbyn adborth cadarnhaol gan ffrindiau sydd wedi cael eu hatgyfeirio at y Cynllun gan eu Meddygon Teulu. 

I ddechrau, roedden nhw'n ansicr am nad oedden nhw erioed wedi bod mewn campfa o'r blaen - ond gyda chymorth ac anogaeth staff, aethon nhw ati i gymryd rhan yn y rhaglen o ddosbarthiadau ffitrwydd. Fe wnaethon nhw fwynhau'r sesiynau a chofrestru ar gyfer Aelodaeth Hamdden am Oes Rhondda Cynon Taf wedi iddyn nhw eu cwblhau. Maen nhw bellach yn mynd i’r gampfa a dosbarthiadau ffitrwydd yn rheolaidd. 

Gan weithio gyda'r Gwasanaeth Iechyd, mae ein staff Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Cymru yn annog ymarfer corff cymedrol er mwyn 'cael hwyl wrth ymarfer corff a’i wneud yn rhan o'ch trefn feunyddiol." 

Y Cynghorydd Ann Crimmings
Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden - Cyngor Rhondda Cynon Taf

 

"Mae ein Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff lleol yng Nghwm Taf yn darparu cyngor gwerthfawr a chymorth ymarferol o ran atal ac adsefydlu yn achos nifer o gyflyrau iechyd annymunol. Mae'r adborth gan ein cleifion yn gadarnhaol iawn ac mae cymorth arbenigwyr addysg gorfforol lleol wedi rhoi'r hyder i'r cleifion gymryd y camau cyntaf tuag at wella'u hiechyd. Ar ben hynny, mae modd iddyn nhw barhau i wneud ymarfer corff yn ddiogel a gwella'u hiechyd corfforol a'u hiechyd meddwl yn hirdymor. 

Cynlluniau ffordd o fyw mewn amgylchedd diogel gyda chymorth megis y rhain yw conglfaen iechyd yn yr unfed ganrif ar hugain." 

Dr Howel Davies
Meddygfa Parc Canol

 

"Byddai'n cleifion ni ar goll heb eich gwasanaeth. Mae'r gwasanaeth yn amhrisiadwy o ran helpu pobl i gynnal ymrwymiad hirdymor i weithgarwch corfforol ac ymarfer corff ac ailddatblygu eu hyder i wneud ymarfer corff yn dilyn digwyddiad iechyd sydd wedi newid eu bywydau. Mae'r wybodaeth sydd gyda'ch staff medrus a'r hyfforddiant maen nhw'n ei gyflawni yn gwneud i ni deimlo’n hyderus iawn yn eu gallu i ddarparu ac annog adferiad y tu hwnt i ofal iechyd. Mae'n rhan bwysig o daith y claf. Rwy'n ei argymell yn fawr iawn i'm holl gleifion." 

Hannah Davies
Ffisiotherapydd Arbenigol Clinigol - Adsefydlu Cardiofasgwlaidd

 

"A minnau'n Feddyg Teulu gyda diddordeb arbenigol mewn Meddygaeth Ffordd o Fyw ac yn arweinydd ein Gwasanaeth Gwella Lles, rwy'n argymell y Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn fawr fel ffordd o helpu fy nghleifion i wella eu symptomau a'u hiechyd hirdymor. Mae'r dystiolaeth feddygol yn nodi'n gryf bod ymarfer corff yn fuddiol i bob math o gyflyrau iechyd. Yn ogystal â hynny, mae fy nghleifion wedi rhoi adborth cadarnhaol iawn o ran y gwelliant i'w lles a'u hyder." 

Dr Liza Thomas-Emrus
Arweinydd Clinigol y Gwasanaeth Gwella Lles - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

 

"Mae ymarfer corff yn rhan bwysig o gynnal pwysau iach a ffordd iach o fyw, ac mae Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Cymru (NERS) yn ffordd wych o gefnogi pobl sy’n dymuno dychwelyd i gyfleusterau hamdden neu ymuno am y tro cyntaf. Mae'r arweiniad gan garfan NERS yn ddefnyddiol iawn ac rwy'n gwybod bod cymorth y garfan yn gwneud gwahaniaeth mawr i hyder pobl yn ystod sesiynau yn y gampfa a dosbarthiadau ffitrwydd”. 

Jo Pockney
Ffisiotherapydd Arbenigol - Gwasanaeth Rheoli Pwysau Oedolion - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

 

Cysylltwch â ni

E-bostiwch - nersrct@rctcbc.gov.uk

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas