Skip to main content
 

Hyrwyddo eich clwb

Pam hyrwyddo eich clwb?

  • I ddenu aelodau a gwirfoddolwyr newydd.
  • I gynyddu eich proffil yn y gymuned.
  • I ennill cymorth lleol ac ar-lein.
  • I ddod o hyd i noddwyr a chyllid newydd.
  • I hyrwyddo achlysuron a dathlu llwyddiannau.

 

Ystyriwch y canlynol

Mae pobl angen gwybod:

  • Bod eich clwb yn bodoli.
  • Beth rydych chi'n ei gynnig.
  • Eich bod chi'n edrych am aelodau a gwirfoddolwyr newydd a/neu gymorth.

 

Gair i gall

  1. Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol a'ch cymuned ar-lein.
  2. Ymgysylltwch â'ch cymuned leol.
  3. Cael gwirfoddolwyr ymroddedig sy'n gyfrifol am hyrwyddo.

 

Ar-lein

  • Facebook: grŵp preifat i gyfathrebu ag aelodau, grŵp cyhoeddus i hyrwyddo'r clwb, creu achlysuron ac anfon gwahoddiadau.
  • Instagram: gwych ar gyfer rhannu lluniau a fideos; defnyddio'r swyddogaeth 'stori' ar gyfer rhannu cyfathrebiadau dros dro.
  • X/Twitter: diweddariadau byr a syml, gwych ar gyfer cyhoeddiadau a dolenni gydag ysgolion, ates, good for announcements and links with schools, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol a chlybiau eraill.
  • Other apps: Youtube (ar gyfer fideos ac uchafbwyntiau), Whatsapp (creu grwpiau ar gyfer aelodau a rhieni), Apiau rheoli timau megis Spond: rhannu manylion hyfforddi/rhaglen y tymor, cadarnhau presenoldeb, casglu taliadau..

Byddwch yn effro i risgiau ar-lein, defnyddiwch gynnwys addas ac amddiffyn aelodau/dilynwyr gyda pholisi cyfryngau cymdeithasol. Ewch i wefan Chwaraeon Cymru i weld eu cynnwys Cadw'n Ddiogel Ar-lein

All-lein

  • Cysylltiadau clwb ysgol: ymgysylltu ag ysgol(ion) lleol i ddatblygu perthnasoedd a hyrwyddo cyfleoedd.
  • Cysylltiadau busnesau lleol: denu aelodau newydd a/neu wirfoddolwyr, neu hyd yn oed dod o hyd i noddwyr a chyllid!
  • Achlysuron: darparu achlysuron cymdeithasol ar y cae ac oddi ar y cae ar gyfer eich aelodau, y gymuned ehangach a phartneriaid.

 

Sut y mae modd i ni helpu?

  • Ein gwefan: mae modd i ni eich hysbysebu chi ar ein map clybiau chwaraeon a hyrwyddo eich cyfleoedd gwirfoddoli!
  • Ein cyfryngau cymdeithasol: byddwn ni'n eich hyrwyddo chi a'ch cyfleoedd i'n dilynwyr!
  • Deunyddiau Marchnata + Astudiaethau Achos: mae modd i ni helpu i greu posteri ar-lein/digidol, fideos ac astudiaethau achos. Cliciwch yma i ymweld â'n tudalen astudiaethau achos.
  • Cysylltiadau Ysgol a Chlybiau: mae modd i'n carfan ysgol eich helpu chi i greu cysylltiadau ag ysgolion, colegau a phrifysgolion lleol.
 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas