Skip to main content
 

Recriwtio Gwirfoddolwyr

Paratoi ymlaen llaw...

  • Beth ydych chi angen ei roi ar waith cyn recriwtio?
  • Sut y byddwch chi'n gofyn am gymorth?
  • Sut y mae modd i chi gefnogi gwirfoddolwyr newydd?

 

Ystryriwch y canlynol

  • Disgrifiadau swyddi clir, gan gynnwys pa sgiliau sy'n hanfodol a faint o amser y bydd angen iddyn nhw ei ymrwymo i'r rôl.
  • Ffyrdd newydd i hyrwyddo eich rolau gwirfoddoli a phroses recriwtio groesawgar.
  • Y ffyrdd y byddwch chi'n gwneud i'ch gwirfoddolwr newydd deimlo fel bod y person yn cael ei gefnogi ac yn rhan o'r clwb.

 

Awgrymiadau

  1. GOFYN am help! Gan amlaf, mae pobl yn barod i helpu - dim ond gofyn sydd rhaid ei wneud! Creu hysbyseb ar-lein a'i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Meddwl am ffyrdd creadigol i ofyn i aelodau presennol ac aelodau teulu trwy grwpiau ar y cyfryngau cymdeithasol. Trefnu noson clwb neu bostio hysbysebion yn yr ardal leol.
  2. Archwiliwch rwydwaith eich clwb! Pa sgiliau a/neu swyddi sydd gyda'ch aelodau a'u teuluoedd? A oes unrhyw gyn-aelodau clwb neu aelodau o’r gymuned leol sydd â’r sgiliau neu’r profiad perthnasol i gefnogi eich clwb?
  3. Rhannwch y buddion o wirfoddoli gyda'ch clwb chi! A fydd eich clwb yn darparu cit, mynediad at gyrsiau a /neu wahoddiadau i achlysuron clwb/cymdeithasol fel gwobr? Bydd y rhain i gyd yn gwneud i wirfoddolwr newydd deimlo'n rhan o'ch clwb. Gwnewch yn siwr eu bod nhw'n deall sut y bydd eu cefnogaeth nhw yn fanteisiol i'ch clwb, eich aelodau a'r gymuned yn ehangach.

 

Sicrhau bod gwirfoddolwyr newydd yn...

  • Cael sesiwn croeso/sefydlu
  • Deall eu rôl a'u cyfrifoldebau
  • Teimlo eu bod nhw'n cael eu cefnogi
  • Deall gwerthoedd, polisïau a gweithdrefnau'r clwb
  • Gwybod at bwy i droi am gymorth
  • Teimlo'n rhan o'r clwb a bod gyda nhw'r hyn sydd ei angen arnyn nhw i gyflawni'r rôl (gan gynnwys cit, hyfforddiant neu adnoddau)

 

Cadw Gwirfoddolwyr

Dylid:

  1. Gwerthfawrogi pob gwirfoddolwr! Mae 'diolch' yn mynd yn bell. Diolchwch iddyn nhw yn bersonol, neu'n gyhoeddus drwy'r cyfryngau cymdeithasol  neu yn ystod cyfarfod/achlysur clwb er mwyn ei wneud yn hyd yn oed yn fwy arbennig.
  2. Datblygu pob gwirfoddolwr! Anogwch wirfoddolwyr i ddatblygu a dysgu gan ei gilydd. Darparwch gyfleoedd hyfforddi os oes angen.
  3. Cefnogi pob gwirfoddolwr! Cadwch mewn cysylltiad a chynnig cymorth hyd yn oed os nad yw’r gwirfoddolwr wedi gofyn eto.

 

Sut rydyn ni'n gallu helpu?

  • Recriwtio gwirfoddolwyr: Mae modd i ni hyrwyddo eich cyfleoedd gwirfoddoli ar y cyfryngau cymdeithasol, ar ein gwefan ac ap, yn ogystal â'n rhwydwaith. Mae modd i ni eich helpu chi i greu hysbysebion a darparu enghreifftiau neu dempledi i chi recriwtio'n fewnol o fewn eich clwb.
  • Cefnogi gwirfoddolwyr: Mae modd i ni eich helpu chi i wneud cais am gyllid er mwyn talu am gostau cyrsiau/hyfforddiant. Mae modd i ni hefyd ddarparu adnoddau a thempledi a fydd yn eu cefnogi nhw yn eu rôl.
  • Cydnabod a Gwobrwyo eich Gwirfoddolwyr: Rydyn ni'n cydnabod ac yn gwobrwyo gwirfoddolwr yn y gymuned trwy ein cystadleuaeth 'Gwirfoddolwr y Mis'. Mae modd i ni hefyd ddarparu templedi 'diolch' y mae modd i chi eu defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol.
 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas