Skip to main content

Y Nadolig yng nghanol ein Trefi

 
 
Lleoliad
Ferndale, Llantrisant, Mountain Ash, Porth, Tonypandy
Date(s)
Dydd Gwener 29 Tachwedd - Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr 2024
Cyswllt

Ebost: achlysuron@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 424123

Disgrifiad
Chrisstmas-In-RCT

Porth, Llantrisant, Aberpennar

O ganlyniad i'r tywydd garw, mae'r achlysur Nadolig yn Porth, Llantrisant, Aberpennar  wedi'i ganslo.

 Mae Siôn Corn ar ei ffordd i ganol tref gyfagos!

Mae Siôn Corn wrthi'n dadlwytho'i ogof a bydd yn hedfan i ganol ein trefi eleni gan ddod â llond sach o hwyl gydag ef!  

29 Tachwedd

3pm – 6.30pm

Glynrhedynog, Maes Parcio Stryd y Leimwydden

30 Tachwedd

 12pm – 5pm

Tonypandy, Maes Parcio Stryd De Winton

5 Rhagfyr

3pm – 6.30pm

Porth, Maes Parcio Plaza'r Porth

6 Rhagfyr

3pm – 6.30pm

Llantrisant, Maes Parcio Heol Gwaun Rhiw'r Perrai

7 Rhagfyr
12pm - 5pm

Aberpennar, Maes Parcio Stryd Henry


Mae pob ymdrech wedi'i wneud er mwyn sicrhau bod yr achlysuron Nadoligaidd yma yn fforddiadwy i drigolion Rhondda Cynon Taf a bydd tocynnau ar gael am £1 yr un ar y diwrnod i'w defnyddio ar gyfer pob gweithgaredd.  Bydd angen 1 tocyn fesul plentyn ar gyfer pob gweithgaredd, ac eithrio Ogof Siôn Corn. Bydd angen 2 docyn ar gyfer y gweithgaredd yma a bydd yn cynnwys anrheg gan Siôn Corn.

Bydd digonedd o hwyl Nadoligaidd ar gael, gan gynnwys:

  • Glôb Eira Enfawr - camwch i mewn i'r eira ar gyfer y llun Nadoligaidd perffaith!
  • Llawr Sglefrio Synthetig - digonedd o hwyl yn sglefrio i'r plant a'r oedolion
  • Ffair Bleser i Blant (3 reid)
  • Ogof Siôn Corn - dewch i gwrdd â Siôn Corn a derbyn eich anrheg Nadolig gyntaf.

Bydd canol pob tref hefyd yn cynnig adloniant i blant a pheiriannau eira er mwyn rhoi dechrau go iawn i dymor yr Ŵyl! 

Bydd canol trefi Pontypridd, Aberdâr a Threorci hefyd yn dathlu'r Nadolig gydag achlysuron yng nghanol y trefi a byddan nhw'n derbyn cymorth ariannol gan y Cyngor er mwyn eu cynnal.

Cysylltwch â ni

Carfan Achlysuron Rhondda Cynon Taf

Ebost: achlysuron@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 424123

Join us on Facebook
Join us on Twitter