Cwblhewch y Ffurflen Gynnig – Rheoli Achlysur isod i gyflwyno cais i gynnal achlysur ar dir Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Y bwriad o ran y ddogfen yma yw eich galluogi chi, a chithau'n drefnydd ar yr achlysur dan sylw, i gyflwyno'r wybodaeth ofynnol er mwyn gwneud cais i gynnal achlysur ar dir Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (gan gynnwys priffyrdd), a/neu, i roi'r wybodaeth gychwynnol i Grŵp Ymgynghori ynghylch Diogelwch Achlysuron Rhondda Cynon Taf (GYDA) ynghylch eich achlysur. Dyw cyflwyno'r ffurflen yma ddim yn gadarnhad bod yr achlysur wedi'i drefnu, nac ychwaith yn rhoi cytundeb bod gyda chi'r hawl i ddefnyddio tir y Cyngor,
Bydd y penderfyniad ffurfiol yn ymwneud â'ch cais trefnu neu gytundeb i ddefnyddio tir y Cyngor yn cael ei rannu wedi i'r mater gael ei drafod yn llawn gan y Cyngor a/neu'r GYDA
Mae'r GYDA yn rhoi cymorth a chyngor i drefnwyr achlysuron. Mae ei aelodau'n helpu i ofalu bod achlysur yn ddiogel ac yn gyfreithiol ar gyfer unrhyw un sy'n ymweld ag e. Bydd yr aelodau'n trafod rhestr o ystyriaethau, yn eu plith:
- nifer y bobl fydd yn bresennol yn yr achlysur;
- yr effaith ar y gymuned leol, er enghraifft yn sgil amharu sylweddol o ran sŵn neu draffig;
- lefel y risg yn gysylltiedig â'r achlysur, gallai hyn fod ar sail hanes blaenorol yr achlysur neu natur yr achlysur;
- achlysuron o natur anarferol;
- gofynion cyfreithiol er enghraifft trwyddedau neu gau ffyrdd
Drwy lenwi'r ddogfen yma, byddwch chi'n rhoi atebion i gwestiynau'n ymwneud ag amryw agwedd ar gynnal eich achlysur, ac o wneud hynny, fe fyddwch chi'n cyflwyno'r wybodaeth angenrheidiol fel bod modd cynnal asesiad cychwynnol ynghylch trefniadau'r achlysur, a bydd yn gyfle i'r GYDA roi cyngor ac arweiniad i chi, pryd bynnag fo hynny'n angenrheidiol. Hefyd, efallai y bydd sefyllfaoedd lle bydd 3 gofyn cael rhagor o fesurau a/neu wybodaeth; bydd y rhain yn cael eu hesbonio i chi ar yr adeg y byddwch chi'n gwneud y cais; er enghraifft Asesiad Risg o ran COVID.