Skip to main content

Rhialtwch Calan Gaeaf

 
 
Lleoliad
Rhondda Heritage Park
Date(s)
Dydd Mawrth 29 - Dydd Mercher 30 Hydref 2024
Cyswllt

Email: rhpreception@rctcbc.gov.uk

Tel: 01443 682036

Disgrifiad
Halloween Spooktacular Body

Mae Rhialtwch Calan Gaeaf yn dychwelyd i Daith Pyllau Glo Cymru yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ar 29 a 30 Hydref!

Mae'r achlysur ffang-tastig i blant yn llawn gweithgareddau ac mae sioe newydd sbon ar thema Calan Gaeaf yn cael ei hychwanegu eleni am ragor o hwyl a sbri! Mae 7 gweithgaredd gwych wedi'u cynnwys ym mhris y tocyn.....

  • Pigwch eich pwmpen eich hun yn y Bwmpenfa
    Ewch am dro drwy ein Pwmpenfa er mwyn dod o hyd i'ch pwmpen berffaith. Ewch â'r bwmpen adref i'w cherfio a gwneud iddi edrych yn ddychrynllyd! (Un bwmpen ar gyfer pob tocyn plentyn sy'n cael ei brynu)
  • Helfa Calan Gaeaf
    Mae ein hysbrydion Calan Gaeaf ni wedi dianc ac eich swydd chi fydd chwilio amdanyn nhw! Casglwch y stamp er mwyn derbyn losin (neu lanast) wedi ichi ddod o hyd iddyn nhw i gyd. (Un cerdyn gweithgareddau ar gyfer pob tocyn plentyn sy'n cael ei brynu)
  • Sioe Calan Gaeaf
    Ymunwch â ni yn ein pabell a byddwch yn barod i gael eich diddanu! (Mae croeso i chi weiddi BŴ!)
  • Sesiwn Grefftau
    Dewch i wneud crefftau yn ein gweithdai. Dewch i gael eich ysbryd-oli.....
  • Lluniau hwyl arswydus
    Byddwch yn barod â'ch camerâu i dynnu llun dychrynllyd yn ein detholiad o gyfleoedd lluniau arswydus. Peidiwch ag anghofio tagio @rhonddaheritagepark ar Facebook
  • Adfail y Pwll Glo
    Ydych chi am fentro dan ddaear i adfail y pwll glo? Dewch o hyd i Sgerbydau Swynol, Corrnnod Cyfoglyd a llawer yn rhagor wrth i chi fynd ar daith.....  bydd Patch y Bwmpen yn aros i ddweud helo ar y diwedd!
  • Ffair Bleser Ffang-tastig
    Mae dwy reid ffair i blant wedi'u cynnwys ym mhris y tocyn. 

Bydd tri slot amser ar gael bob dydd, 10am-12pm, 12.30pm-2.30pm a 3pm-5pm.

Pris mynediad ar gyfer Rhialtwch Calan Gaeaf yw £10 ar gyfer pob plentyn sy'n cymryd rhan a £3.50 ar gyfer pob oedolyn.
Mae tocynnau ar werth nawr.

 

Submit An Event

Cysylltwch â ni

Carfan Achlysuron Rhondda Cynon Taf

Ebost: achlysuron@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 424123

Join us on Facebook
Join us on Twitter