Byddwch yn barod ar gyfer achlysur Monsters of the Mine unwaith eto ym mis Hydref 2024, wrth i greaduriaid gwyllt fynd yn rhemp trwy Zip World Tower am y 3edd flwyddyn yn olynol. Magwch nerth a hyder am anturiaethau yn y tywyllwch, wrth i chi hefyd gael eich dychryn a'ch pryfocio gan yr haid o fwystfilod. Does neb nac unman yn ddiogel, nid hyd yn oed yn y maes parcio...Dewiswch o blith 5 Tocyn Nos am noson bythgofiadwy. I bobl 9 oed a hŷn