Mis Cerdded Cenedlaethol yw mis Mai, ac eleni rydyn ni'n herio staff i gerdded 100 milltir ym mis Mai! Neu rydyn ni'n eich herio i gynyddu nifer eich camau dyddiol – mae pob cam yn cyfrif!
Mae cerdded yn cynnig buddion di-ri – Gall cerdded am 20 munud leihau'r perygl o sawl cyflwr iechyd y mae modd eu hatal, gan gynnwys rhai mathau o ganser, iselder, clefyd y galon a diabetes math 2.
Cerdded yw un o'r ffyrdd hawsaf o wella iechyd corfforol ac iechyd meddwl ac aros yn gysylltiedig â'n cymuned, gan ein helpu ni i deimlo'n llai unig. Trwy gyfnewid taith fer yn y car am daith gerdded fer, mae modd i chi hefyd helpu i leihau llygredd aer a thagfeydd, arbed arian a chadw'n heini i gyd ar yr un pryd!
Ymunwch â’n her gerdded rithwir am y 4edd flwyddyn yn olynol! Cerddwch 100 milltir drwy gydol mis Mai. Cerddwch ar eich pen eich hun neu gyda chydweithwyr / teulu / ffrindiau! Cwblhewch y ffurflen yma i ymuno: https://forms.office.com/e/m9Fbg41V40
Byddwch chi'n cael eich ychwanegu at sianel ar Teams, lle bydd modd ichi gofnodi eich cynnydd a chefnogi eich gilydd. Byddwn ni hefyd yn rhannu awgrymiadau, heriau wythnosol, llwybrau cerdded a rhagor!
Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi e-bostio: YmholiadauIechydaLles@rctcbc.gov.uk