Mae cymorth ar gael i unrhyw un sy'n bryderus am sut maen nhw neu rywun arall yn defnyddio alcohol neu gyffruriau yn ystod argyfwng y Coronafeirws.
Mae'r amrywiaeth eang o gymorth arferol ar gyfer pobl o bob oed yn dal i fod ar gael dros y ffôn, ac mae modd cwrdd wyneb yn wyneb os oes angen.
I gael cymorth ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf rhwng 9am a 5pm ar ddyddiau gwaith, cysylltwch â:
DASPA
O ran materion Alcohol a Chyffuriau, DASPA yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pobl sy'n chwilio am gymorth neu gyngor ynghylch camddefnyddio cyffuriau ac alcohol ar draws Cwm Taf.
Mae DASPA yn rhoi cyngor ac yn cyfeirio defnyddwyr gwasanaeth, pobl ifanc, rhieni, aelodau o'r teulu ac eraill sy'n pryderu i'r gwasanaethau mwyaf priodol, gan sicrhau fod modd iddyn nhw gyrraedd y cymorth sydd ei angen yn hawdd ac yn gyflym.
Pe hoffech chi siarad â rhywun yn rhad ac am ddim, ac yn gyfrinachol, ffoniwch DASPA.
Ffôn: 0300 333 0000
-
I gael cymorth rhwng 9am a 5pm ar ddyddiau gwaith yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, cysylltwch â:
AADAS
AADAS yw'r man cyswllt cyntaf i bobl sy'n chwilio am gymorth neu gyngor ynghylch camddefnyddio cyffuriau ac alcohol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae AADAS yn cynnig un pwynt mynediad ar gyfer asesiadau, gwybodaeth a chyngor am gam-drin alcohol a chyffuriau i bobl sy'n pryderu am eu camddefnydd, yn ogystal â'r rhai sy'n chwilio am gymorth a chyngor cyfrinachol oherwydd bod ffrind/aelod o'r teulu'n camddefnyddio cyffuriau neu alcohol.
Ffôn: 01792 530719
-
Cymorth y tu allan i oriau arferol:
Dan 24/7
Bydd y llinell gymorth yn helpu unigolion, eu teuluoedd, cynhalwyr, a'r rheiny sy'n weithwyr cymorth yn y maes cyffuriau ac alcohol i gael gafael ar wasanaethau lleol a rhanbarthol priodol.
Gwefan Cymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru www.dan247.org.uk
I gael cymorth y tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch Dan 24/7
Ffôn: 0808 808 2234 neu anfonwch neges destun at DAN: 81066
Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.barod.cymru , neu dilynwch barod ar facebook neu twitter i gael y newyddion diweddaraf a chyngor. Ar gyfer gwasanaethau Pen-y-bont ar Ogwr, mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: www.wcada.org, neu dilynwch Dudalen facebook WCADA.
Cysylltwch â'r Garfan Comisiynu Materion Camddefnyddio Sylweddau ar: contact@substancemisuserct.co.uk
- Nodwch: Mae gweddill y wefan hon wrthi'n cael ei datblygu ar hyn o bryd.