Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn cynnig lleoliad gwirioneddol wych ar gyfer priodasau i'r rhai sy'n chwilio am rywbeth ychydig yn wahanol.
Mae'r ganolfan ymwelwyr, gan gynnwys y caffi, yn cael ei thrawsnewid yn lleoliad hudolus, rhamantus ar gyfer eich diwrnod a'ch noson arbennig.
Mae'r Caffi a'i gyfleusterau yn gallu darparu bwyd ac, wrth gwrs, mae'r llety ar y safle yn berffaith ar gyfer gwesteion.
Mae gan y theatr yn y ganolfan ymwelwyr drwydded ar gyfer seremonïau sifil, gyda lle i hyd at 50 o bobl.
Mae gan Gwm Dâr hefyd ystod o ystafelloedd y mae modd eu defnyddio ar gyfer amrywiol gyfarfodydd a chynadleddau. Mae modd darparu bwyd a llety ar y safle os oes angen.
Rydyn ni hefyd yn gallu creu diwrnodau pwrpasol yn y gweithle a diwrnodau meithrin tîmau, gan gyfuno gweithgareddau awyr agored â chyfleusterau cynadledda rhagorol am ddiwrnod neu benwythnos i gryfhau'ch tîm.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.