Skip to main content

Rhaglen Gwella Cynhyrchiant Busnes y Cymoedd Technoleg

Gweledigaeth y Cymoedd Technoleg yw creu canolfan lewyrchus ac o’r radd flaenaf ar gyfer uwch-dechnoleg a fydd yn cynnwys cwmnïau gweithgynhyrchu Cymreig o bob maint sy’n cynrychioli sawl is-sector allweddol, gan gynnwys bwyd, a chreu swyddi sy’n heriol, sy’n rhoi boddhad ac sy’n uchel eu bri.
  • Gwella Effeithlonrwydd
  • Datblygu Cynhyrchion Newydd
  • Archwilio Marchnadoedd Newydd

Bydd Rhaglen Gwella Cynhyrchiant Busnes y Cymoedd Technoleg yn annog BBaCh sy’n cyflogi mwy na 10 o bobl i wneud y canlynol:

  • Diogelu eich busnes at y dyfodol drwy fod yn fwy effeithlon, 
  • Cyflwyno technoleg newydd, 
  • Amrywio eich cwsmeriaid, 
  • Datblygu cynhyrchion newydd. 

Yn dilyn archwiliad diagnostig AM DDIM o’ch cwmni bydd pecyn cymorth wedi’i deilwra yn cael ei gynnig i chi. Bydd y pecyn cymorth hwn yn amrywio o gymorth ymarferol â gweithredu i ddatblygu sgiliau, ymchwil a datblygu, allforio a CHYMORTH GRANT ar gyfer gwariant cyfalaf ac unrhyw ymyriadau arbenigol eraill sy’n ofynnol

cysylltwch e-bost: techvalleys@gov.wales