Skip to main content

Datganiad Preifatrwydd Gwefannau

Mae’ch hawl chi i breifatrwydd yn bwysig iawn inni. Pan fyddwch chi’n dewis rhoi gwybodaeth amdanoch chi’ch hun inni, rydych chi’n ymddiried y byddwn ni’n gweithredu mewn ffordd gyfrifol, ac rydyn ni’n cydnabod hynny. Mae'r canlynol yn cynnwys yr arferion casglu gwybodaeth, prosesu a storio ar gyfer y wefan yma.  Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

Gwybodaeth a gasglwn

Pan fydd rhywun yn ymweld â'r wefan yma, rydyn ni'n casglu gwybodaeth logio safonol a gwybodaeth ddiagnostig. Rydyn ni'n gwneud hyn er mwyn darganfod pethau fel nifer yr ymwelwyr i wahanol rannau o'r wefan ac er mwyn adnabod a datrys problemau. Rydyn ni'n casglu'r wybodaeth yma mewn ffordd lle nad yw hi'n bosibl i adnabod unrhyw un o'r data. Fyddwn ni ddim yn cysylltu unrhyw ddata sydd wedi'i gasglu yn y dull yma gydag unrhyw wybodaeth bersonol o unrhyw ffynhonnell.

Os byddwch chi'n dewis cwblhau unrhyw un o'n ffurflenni electronig (e-Ffurflenni), bydd eich data personol yn cael ei rannu gyda'r maes gwasanaeth perthnasol er mwyn iddo brosesu eich cais.

Os ydych chi'n dewis cofrestru ar gyfer ein gwasanaeth e-bost, byddwn ni'n rhannu'r wybodaeth bersonol sydd ei hangen i ddarparu'r gwasanaeth gyda Gwasanaeth Gov.UK Notify. Mae gan wefan Gov.UK Notify fanylion ar sut mae eich data yn cael ei brosesu, ei gadw a'i ddiogelu.

Sut rydyn ni'n amddiffyn eich gwybodaeth

Mae'r holl wybodaeth sydd wedi cael ei mewnbynnu i'n e-Ffurflenni yn cael ei throsglwyddo i'n gweinyddion. Bydd yr wybodaeth yn cael ei storio yn ein System Rheoli Perthynas Cwsmeriaid a/neu yn cael ei hanfon at adrannau gwasanaeth perthnasol.

Bydd yr wybodaeth rydych chi'n ei rhoi yn cael ei phrosesu yn unol â darpariaethau deddfwriaeth diogelu data. Serch hynny, mae gan y cyngor ddyletswydd i amddiffyn arian cyhoeddus a gall ddefnyddio'r wybodaeth er mwyn atal a chanfod twyll.

Does dim modd i'r Cyngor wybod a yw'r person sy'n rhoi gwybodaeth trwy'r wefan yma yn dweud y gwir am bwy ydyn nhw. Byddwn ni'n tybio bod yr holl wybodaeth yn ddilys ac yn gywir, a fyddwn ni ddim yn gallu bod yn gyfrifol am unrhyw gamau gweithredu sy'n cael eu cymryd yn ei sgîl. Os oes unrhyw reswm gyda chi i feddwl bod rhywun wedi rhoi gwybodaeth i'r Cyngor gan ddefnyddio'ch hunaniaeth chi, rhowch wybod trwy gysylltu â’r Gwasanaethau i Gwsmeriaid.

Cysylltiadau Allanol

Efallai bydd y wefan yma'n cynnwys cysylltiadau i wefannau eraill, adrannau eraill y Llywodraeth a gwefannau sefydliadau eraill, fel ei gilydd. Mae'r polisi preifatrwydd yma'n berthnasol i'n gwefan yn unig, ac felly byddwch yn effro pan fyddwch chi'n symud i wefan arall. Darllenwch ddatganiad preifatrwydd unrhyw wefan sy'n casglu gwybodaeth bersonol.

Newidiadau i'r polisi preifatrwydd yma

Os bydd y polisi preifatrwydd yma'n newid mewn unrhyw ffordd, byddwn ni'n rhoi'r fersiwn diweddaraf ar y dudalen yma. Trwy adolygu'r dudalen yma'n rheolaidd, byddwch chi'n gwybod, bob tro, am yr wybodaeth a gasglwn, sut byddwn ni'n ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn ni'n ei rhannu gyda phartïon eraill.

Cysylltwch â Ni

Hoffech chi eglurhad neu wybodaeth ychwanegol ynglŷn â'r manylion sydd wedi'u nodi yn y polisi preifatrwydd yma? Croeso ichi gysylltu â’r Gwasanaethau i Gwsmeriaid, ac fe fyddwn ni'n hapus i ymdrin â'ch cais.