Skip to main content

Datganiad Hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i gynnwys sydd i'w weld ar barth  www.rctcbc.gov.uk. Bydd gan unrhyw wefannau eraill rydyn ni'n eu rheoli eu datganiad hygyrchedd eu hunain.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf sy'n gweithredu'r wefan yma. Rydyn ni eisiau i gynifer o bobl â phosibl gallu defnyddio'r wefan yma.  Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylai bod modd i chi wneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais/lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydyn ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gyda chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?

Rydyn ni'n gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • Dydy fformatau PDF na dogfennau ddim yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenwyr sgrin
  • Dydy'r cynnwys a'r modd llywio gan gyflenwyr trydydd parti ddim yn gwbl hygyrch
  • Fydd y testun ddim yn ail-lenwi mewn un golofn pan fyddwch chi'n newid maint ffenestr y porwr
  • Does dim modd addasu uchder llinellau na bylchau testun

Adborth a manylion cyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch chi ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

Bydd angen i ni wybod:

  • cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
  • Eich enw
  • Cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post
  • y fformat sydd ei angen arnoch chi

Byddwn ni'n ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn pen 15 diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydyn ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon.  Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi'n meddwl nad ydyn ni'n cwrdd â'r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni trwy:

Bydd angen i ni wybod:

  • cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
  • Eich enw
  • Cyfeiriad e-bost
  • Manylion am y broblem

Byddwn ni'n ymchwilio i'r broblem ac yn cysylltu â chi cyn pen 15 diwrnod gwaith.

Gweithdrefn Gorfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n fodlon ar sut rydyn ni'n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth ar gyfer Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni dros y ffôn neu galw heibio wyneb-yn-wyneb

Rydyn ni'n darparu gwasanaeth testun i bobl sy'n fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd.  Dyma'r rhif: 01685 870111. 01443 425005.

Mae dolenni sain yn ein swyddfeydd, neu os byddwch chi'n cysylltu â ni cyn eich ymweliad, bydd modd inni drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar eich cyfer chi.  Wrth drefnu eich apwyntiad, byddwn ni'n gofyn a oes gyda chi unrhyw ofynion arbennig.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws Cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 Safon AA.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Mae'r cynnwys nad yw'n hygyrch wedi'i nodi isod gyda manylion:

Diffyg cydymffurfiad â rheoliadau hygyrchedd

  1. Mae rhai dolenni cyfagos yn mynd i'r un gyrchfan. Dydy hyn ddim yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 1.1.1 (cynnwys nad yw'n destun).
  2. Mae peth o'r testun arall yr un peth â thestun cyfagos. Dydy hyn ddim yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 1.1.1 (cynnwys nad yw'n destun).
  3. Dydy lluniau ar rai tudalennau ddim bob amser â disgrifiad addas. Mae’n bosibl na fydd gan ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol fynediad at wybodaeth yn y lluniau. Dydy hyn ddim yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 1.1.1 (Cynnwys nad yw'n destun).
  4. Does gan rai clipiau sain a fideo ddim is-deitlau. Dydy hyn ddim yn bodloni WCAG 2.1  maen prawf llwyddiant 1.2.2 (Wedi'u recordio ymlaen llaw).
  5.  Does gan rai tablau ddim penynnau rhesi tablau. Mae hyn yn golygu na fydd technoleg gynorthwyol yn darllen y tablau'n gywir. Dydy hyn ddim yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasau).
  6. Does gan rai penawdau tablau ddim priodoledd gwmpas. Dydy hyn ddim yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasau).
  7. Does gan rai tudalennau ddim pennawd. Dydy hyn ddim yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasau).
  8. Does gan rai penawdau ddim testun. Dydy hyn ddim yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasau).
  9. Mae gan rai tudalennau opsiwn gwe-lywio nad yw'n rhestr. Dydy hyn ddim yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasau).
  10. Mae gan rai tudalennau ffurflenni nad ydyn nhw'n diffinio labeli testun clir ar gyfer rheoli pob ffurflen. Dydy hyn ddim yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasau). Rydyn ni wedi dod o hyd i 3 ffurflen nad ydyn nhw'n bodloni'r safon yma.
  11. Dydy rhai ffurflenni ddim yn cynnal opsiwn cwblhau'n awtomatig. Dydy hyn ddim yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 1.3.5 (Adnabod Diben y Mewnbwn). Rydyn ni wedi dod o hyd i 38 o ffurflenni nad ydyn nhw'n bodloni'r safon yma.
  12. Mae rhai dolenni i’w gweld trwy liw yn unig. Dydy hyn ddim yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 1.4.1 (Defnydd o Liw).
  13. Mae gan rai tudalennau gyferbyniad lliw gwael. Dydy hyn ddim yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 1.4.3 (Cyferbyniad: lleiafswm) a maen prawf llwyddiant 1.4.6 (Cyferbyniad: Uwch).
  14. Mae rhai tudalennau yn sgrolio tua dau gyfeiriad ar sgriniau bach. Dydy hyn ddim yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 1.4.10 (Ail-lifo).
  15. Mae rhai dolenni’n cyfeirio at angorau nad ydyn nhw'n bodoli. Dydy hyn ddim yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 2.4.1 (Blociau Osgoi).
  16. Does gan rai tudalennau ddim dolen i gynnwys neu dydy'r ddolen ddim yn gweithio. Dydy hyn ddim yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 2.4.1 (Blociau Osgoi).
  17. Does gan rai fframiau mewnol deitl. Dydy hyn ddim yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 2.4.1 (Blociau Osgoi).
  18. Does gan rai dolenni ddim diben clir. Dydy hyn ddim yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 2.4.4 (Mewn Cyd-destun).
  19. Dydy rhai opsiynau rheoli ddim yn newid ar ôl cael eu dewis. Dydy hyn ddim yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 2.4.7 (Ffocws Gweladwy).
  20. Mae peth o'r cynnwys yn anodd ei ddeall. Dydy hyn ddim yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 3.1.5 (Lefel Darllen).
  21. Mae peth o'r cynnwys YouTube wedi'i fewnblannu mewn ffurflen heb fotwm cyflwyno. Dydy hyn ddim yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 3.2.2 (Wrth Fewnbynnu).
  22. Dydy rhai rhestri ddim wedi’u nodi'n gywir. Dydy hyn ddim yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 4.1.1 (Dosrannu).
  23. Mae gan rai tudalennau rifau adnabod dyblyg. Dydy hyn ddim yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 4.1.1 (Dosrannu).
  24. Dydy rhai dolenni ddim yn gweithio gyda darllenyddion sgriniau. Dydy hyn ddim yn bodloni WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth).

Rydyn ni'n bwriadu datrys y problemau wedi’u nodi erbyn 30/12/2022.

Fformat PDF a dogfennau sydd ddim yn HTML

Mae nifer o ddogfennau heb fod yn hygyrch mewn sawl ffordd, gan gynnwys elfennau coll o ran dewisiadau testun amgen a strwythurau dogfennau.

Rydyn ni'n bwriadu naill ai atgyweirio'r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF newydd rydyn ni'n eu cyhoeddi yn bodloni'r safonau hygyrchedd.

Rydyn ni'n nodi lle ar y dudalen y dylai gwybodaeth mewn PDF fod ar y wefan hon. Byddwn ni'n trwsio'r rhain erbyn 30/12/2022.

Fideo byw

Dydyn ni ddim yn bwriadu ychwanegu capsiynau/testunau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'u heithrio rhag cwrdd â'r rheoliadau hygyrchedd.

Baich anghymesur

Ddim yn berthnasol.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Does dim angen i ddogfennau nad ydynt yn HTML a gyhoeddwyd cyn mis Medi 2018 fod yn hygyrch - oni bai bod eu hangen ar ddefnyddwyr i ddefnyddio gwasanaeth.

Beth rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Rydyn ni'n bwriadu nodi a thrwsio problemau cyn gynted â phosibl. Mae'r amserlenni ar gyfer trwsio pob problem wedi'u rhestri yn yr adran berthnasol uchod.

Rydyn ni hefyd yn cysylltu â'n cyflenwyr lle nad oes modd i ni ddatrys unrhyw broblemau ein hunain.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad yma'i baratoi ar 25/09/2020.  Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 30/03/2022.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 29/03/2022. Caiff y prawf ei gynnal gan Staff RhCT gan ddefnyddio'r Offeryn Hygyrchedd 'Silktide'. Rydyn ni hefyd yn profi rhai tudalennau â llaw gan ddefnyddio Axe a phrofi â llaw i ddod o hyd i broblemau nad oes modd i'r offer eu nodi.