Skip to main content

Trwydded symud anifeiliaid

Yn dilyn yr achosion o Glwy'r Traed a'r Genau yn 2001, cafodd Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003 ei sefydlu i reoli symud anifeiliaid ac, felly, atal yr achosion rhag codi eto.

Mae ffurflenni cais am Drwydded Symud Gyffredinol ar gael ar gyfer y canlynol:

  • Gwartheg
  • Defaid a geifr
  • Moch
  • Ceirw

Mae'r rheolau diweddaraf o ran symud anifeiliaid mewn grym ers 31 Mawrth 2005.

I gael rhagor o wybodaeth am y pynciau uchod, ewch i.

Dogfennau symud anifeiliaid

Rhaid anfon dogfen symud (AML2 ac AML2) wrth symud defaid, geifr a moch – ar ôl cyrraedd pen y daith, rhaid anfon y copi gwyn at yr Awdurdod Lleol yn y gyrchfan o fewn 3 diwrnod.

Mae'r ddogfen symud ar gael gan eich Awdurdod Lleol. Defnyddiwch y manylion cyswllt ar waelod y dudalen, neu anfonwch neges e-bost i iechydychoeddllesanifeiliaid@rctcbc.gov.uk

Pasbortau ceffylau

Er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Pasbortau Ceffylau (Cymru) 2005, rhaid i bawb sy'n berchen ar geffylau, neu'n eu cadw nhw – gan gynnwys merlod, asynnod a cheffylau eraill – wneud cais am basbort llawn erbyn 28 Chwefror 2005.

Rhaid cael pasbortau gan Awdurdod Cyhoeddi Pasbortau cydnabyddedig.

I gael golwg ar gwestiynau cyffredin, a'r atebion, ac unrhyw wybodaeth arall ynglŷn â'r uchod, ewch i:

Llywodraeth Cymru: Ceffylau

Cysylltu â ni

 

Ffôn: 01443 425777
Ffacs: 01443 425301
Neges destun: 07781 489133
Minicom: 01443 425535