Skip to main content

Trwydded sefydliad marchogaeth

Mae trwyddedau ar gyfer cadw sefydliad marchogaeth yn cael eu rhoi yn unol â Deddfau Sefydliadau Marchogaeth 1964 a 1970.

Mae Sefydliad Marchogaeth yn “cynnal busnes cadw ceffylau er mwyn eu llogi ar gyfer marchogaeth neu hyfforddiant marchogaeth”. Bydd rhaid adnewyddu'r drwydded yn flynyddol. Bydd y Cyngor yn trefnu arolygiad o'r ceffylau a'r safle gan filfeddyg er mwyn sicrhau lles yr anifeiliaid a bod y llety'n addas. Byddwch chi'n derbyn y drwydded yn unol ag amodau'r drwydded a thalu cost y drwydded, sef £208.00. Yn ogystal, bydd gofyn i'r ymgeisydd dalu costau arolygiadau gan filfeddyg sydd wedi'i awdurdodi gan y Cyngor.

Crynodeb o'r rheoliadau

Yn ogystal, mae'r amodau canlynol yn ofynnol yn ôl y Ddeddf, er efallai fydd dim sôn amdanyn nhw yn y drwydded:

  • Fydd ceffyl, sydd angen sylw milfeddyg yn ôl swyddog awdurdodedig, ddim yn cael ailgydio yn ei waith nes bod deiliad y drwydded, ar ei gost ei hun, yn cyflwyno tystysgrif filfeddygol i'r Awdurdod Lleol yn dweud bod y ceffyl yn addas ar gyfer gwaith;
  • Fydd dim modd llogi ceffylau i'w marchogaeth na'u defnyddio ar gyfer hyfforddiant marchogaeth heb oruchwyliaeth gan berson cyfrifol sy'n 16 oed neu'n hŷn. Yr unig eithriad (yn achos ceffyl sy'n cael ei logi ar gyfer marchogaeth) ydy bod deiliad y drwydded yn fodlon bod y person sy'n llogi'r ceffyl yn gymwys i farchogaeth heb oruchwyliaeth;
  • Fydd y busnes sefydliad marchogaeth ddim, ar unrhyw adeg, yn cael ei adael yng ngofal unrhyw berson dan 16 oed;
  • Bydd gan ddeiliad y drwydded bolisi yswiriant dilys sy'n ei yswirio ef yn erbyn atebolrwydd am unrhyw anaf bydd y rhai sy'n llogi ceffyl ganddo i farchogaeth a/neu ar gyfer hyfforddiant marchogaeth yn ei gael. Bydd yr yswiriant hefyd yn yswirio'r rhai hynny yn erbyn atebolrwydd a allai gael ei achosi ganddyn nhw o ran anaf i unrhyw berson oherwydd y llogi neu ddefnyddio ceffyl am y rhesymau uchod;
  • Bydd deiliad y drwydded yn cadw cofrestr o'r holl geffylau yn ei feddiant, sy'n 3 oed neu'n iau, sydd fel arfer yn cael eu cadw ar y safle. Bydd y gofrestr ar gael i'w harchwilio gan swyddog awdurdodedig ar bob adeg resymol. (Adran 1(4a))
  • Mae arweiniad am amodau trwyddedu sefydliadau marchogaeth yn cael ei roi gan Gymdeithas Milfeddygon Prydain.

Gweld rhagor o fanylion am Ddeddf Sefydliadau Marchogaeth

Meini prawf

Bydd rhaid cyflwyno cais am drwydded i'r Awdurdod Lleol. Bydd modd rhoi trwydded os fydd yr ymgeisydd ddim wedi'i wahardd o dan unrhyw un o'r canlynol:

  • Cadw sefydliad marchogaeth
  • Cadw siop anifeiliaid anwes
  • Cadw ci
  • Cadw sefydliad lletya i anifeiliaid
  • Cadw sefydliad bridio cŵn
  • Bod yn gyfrifol am anifeiliaid

Bydd rhaid bod gan yr ymgeisydd bolisi yswiriant atebolrwydd dilys.

Y broses cyflwyno cais

Mae ffurflenni cais ar gael trwy gysylltu â ni neu drwy lenwi cais ar-lein gan ddefnyddio'r manylion isod.

Er budd y cyhoedd, mae rhaid i'r Awdurdod brosesu'ch cais cyn iddo fe gael ei gymeradwyo. Os fyddwch chi ddim wedi clywed gan yr Awdurdod Lleol o fewn cyfnod rhesymol, rhowch wybod am hyn gan ddefnyddio'r manylion cysylltu isod.

Costau

Cost y drwydded yma yw £208.00. Bydd rhaid talu'r gost yma wrth gyflwyno'r cais. Bydd hefyd gost arolygiad milfeddygol. Bydd hwn yn digwydd drwy apwyntiad cyn gynted ag y bydd hi'n ymarferol ar ôl cyflwyno'r cais.

Amserlen

Mae'r Awdurdod Trwyddedu'n dibynnu ar awdurdod allanol i gynnal arolygiad, felly, does dim modd i ni ddweud pa mor hir bydd y broses yma.

Cyflwyno cais

Erbyn hyn, mae modd i chi gyflwyno cais am drwydded ar-lein.

Proses apelio

Cysylltwch â'r Awdurdod Lleol yn gyntaf.

Os byddwn ni'n gwrthod eich cais, bydd modd i chi apelio yn eich llys ynadon lleol.

Cwyno/gwrthwynebu

Hoffech chi gyflwyno cwyn, naill ai am Sefydliad Lletya i Anifeiliaid neu am ein gweithdrefnau? Ffoniwch y Garfan Trwyddedu ar 01443 425001 a gofynnwch am Swyddog Trwyddedu.

Cofrestri cyhoeddus

I gael mynediad i'r gofrestr gyhoeddus, ffoniwch y Garfan Trwyddedu ar 01443 425001 i drefnu apwyntiad i weld y gofrestr yn ein swyddfeydd. Neu, anfonwch eich cais mewn neges e-bost i Adran.Trwyddedau@rhondda-cynon-taf.gov.uk.

Rhagor o wybodaeth

Carfan Trwyddedu

Tŷ Elái
Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301