Skip to main content

Trwydded sŵ

Mae sŵau'n cael eu rheoleiddio gan y Cyngor yn unol â Deddf Trwyddedu Sŵau 1981.

Mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth agos â gwefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (‘DEFRA’) ym mhob agwedd ar faterion trwyddedu sŵau.

Maes arbenigol yw trwyddedu sŵau ac mae'r rheoliadau'n gymhleth. Os ydych chi'n ystyried sefydlu sŵ, rydyn ni'n argymell eich bod chi'n cysylltu â swyddog arbenigol yn gyntaf i gael cyngor ac arweiniad. Defnyddiwch y manylion cyswllt isod.

Crynodeb o'r rheoliadau

Rhaid i'r Awdurdod ymgynghori â'r heddlu, yr awdurdod tân a chorff llywodraethu unrhyw sefydliad cenedlaethol sy'n ymwneud â sŵau. Yn ogystal â hyn, rhaid ymgynghori ag awdurdodau cyfagos os yw'r sŵ yn ymestyn dros ardal yr awdurdod hwnnw, a hefyd y sawl sydd eisiau gwrthwynebu ar sail yr effaith niweidiol honedig ar iechyd a diogelwch unrhyw un sy'n byw yn yr ardal.

Mae rhaid i'r Awdurdod drefnu arolygiad gan arolygydd ymgynghorol (oddi ar restr o arolygwyr addas sydd wedi'u henwebu gan yr Ysgrifennydd Gwladol).

Meini prawf

Fydd dim modd i'r Awdurdod Lleol ystyried cais oni bai bod o leiaf ddau fis o rybudd wedi'i roi am y cais, yn ogystal â chyhoeddi manylion mewn papur newydd lleol a chenedlaethol, a gosod hysbysiad ar y safle.

Proses cyflwyno cais

Erbyn hyn, mae modd i chi gyflwyno cais ar-lein neu dderbyn ffurflen gais. Defnyddiwch y manylion isod.

Cyflwyno cais

Erbyn hyn, mae modd i chi gyflwyno cais am drwydded ar-lein.

Cadarnhad ein bod ni wedi derbyn eich cais

Os byddwch chi'n cyflwyno cais ar-lein, byddwch chi'n derbyn cadarnhad unwaith ein bod ni wedi derbyn y taliad yn llwyddiannus. Byddwch chi, wedyn, yn derbyn neges e-bost yn nodi bod eich cais yn cael ei brosesu.

Os byddwch chi'n anfon cais i'r Adran Trwyddedu, byddwch chi, o fewn saith o ddiwrnodau gwaith, yn derbyn llythyr o gadarnhad bod eich cais yn cael ei brosesu, ynghyd â derbynneb.

Os byddwch chi'n dod â'ch ffurflen gais i dderbynfa ein swyddfa, byddwch chi'n derbyn derbynneb ar unwaith ac, o fewn saith o ddiwrnodau gwaith, byddwch chi'n derbyn llythyr sy'n cadarnhau bod eich cais yn cael ei brosesu.

Noder: Er budd y cyhoedd, mae rhaid i'r Awdurdod brosesu'ch cais cyn iddo fe gael ei gymeradwyo. Os fyddwch chi ddim wedi clywed gan yr Awdurdod Lleol o fewn cyfnod rhesymol, rhowch wybod am hyn gan ddefnyddio'r manylion cysylltu isod.

Costau

Amrywiol.

Proses apelio

Cysylltwch â'r Awdurdod Lleol yn gyntaf.

Os byddwn ni'n gwrthod eich cais, bydd modd i chi apelio yn eich llys ynadon lleol.

Cwyno/gwrthwynebu

Hoffech chi gyflwyno cwyn, naill ai am drwydded sŵ neu am ein gweithdrefnau? Ffoniwch y Garfan Trwyddedu ar 01443 425001 a gofynnwch am Swyddog Trwyddedu.

Cofrestri cyhoeddus

I gael mynediad i'r gofrestr gyhoeddus, ffoniwch y Garfan Trwyddedu ar 01443 425001 i drefnu apwyntiad i weld y gofrestr yn ein swyddfeydd. Neu anfonwch eich cais mewn neges e-bost i Adran.Trwyddedau@rhondda-cynon-taf.gov.uk.

Rhagor o wybodaeth

Carfan Trwyddedu

Tŷ Elái

Dinas Isaf

Trewiliam

Tonypandy

CF40 1NY

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301