Skip to main content

Trwydded casglu o dŷ i dŷ

Yn unol â Deddf Casglu o Dŷ i Dŷ 1939, rhaid cael trwydded er mwyn cynnal casgliadau o dŷ i dŷ.

Crynodeb o'r rheoliadau

Yn amlach na pheidio, bydd trwydded ar gyfer casglu yn y stryd yn para diwrnod neu ddau, ond mae modd rhoi trwydded casglu o dŷ i dŷ am gyfnod o hyd at flwyddyn. O ran gwirio ac edrych ar hanes sefydliadau er mwyn gofalu eu bod nhw'n rhai dilys, mae'r un gweithdrefnau i'w cymhwyso fel yn achos casglu yn y stryd.

Yn dilyn casgliadau, fel yn achos y drwydded casglu yn y stryd, mae gofyn bod trefnwr y casgliad yn paratoi adroddiad ariannol.

Fel rheol, mae casgliadau'n cael eu cynnal o dŷ i dŷ neu o dafarn i dafarn.

Mae'r Comisiwn Elusennau wedi esgusodi rhai o'r elusennau mwyaf adnabyddus (e.e. Cymorth Cristnogol, Cyngor yr Henoed ac ati) rhag gorfod cyflwyno cais am drwydded. Ond yn amlach na pheidio, mae gofyn bod y rhan fwyaf o grwpiau a sefydliadau lleol yn cyflwyno cais am drwydded cyn y cawn nhw gasglu arian (neu eitemau maen nhw'n bwriadu eu gwerthu yn ddiweddarach) o ddrws i ddrws.

Gweld rhagor o fanylion am reoliadau casglu o dŷ i dŷ

Meini prawf

Un o'r prif resymau dros wrthod cais fyddai pe bai'r swm o arian sydd i'w roi i elusen o ganlyniad i gasgliad yn annigonol o'i gymharu â swm yr arian sydd i ddod i law. Er enghraifft, pan fydd yr ymgeisydd yn bwriadu hawlio cryn dipyn o'r derbyniadau ar gyfer treuliau, bydd modd gwrthod y cais. Does dim arweiniad statudol ar symiau rhesymol ar gyfer treuliau wedi'i roi i awdurdodau lleol.

Cyflwyno cais

Mae ffurflenni cais ar gael trwy gysylltu â ni neu drwy lenwi cais ar-lein gan ddefnyddio'r manylion isod:

Nodwch: Er budd y cyhoedd, mae rhaid i'r Awdurdod brosesu'ch cais cyn iddo fe gael ei gymeradwyo. Os fyddwch chi ddim wedi clywed gan yr Awdurdod Lleol o fewn cyfnod rhesymol, rhowch wybod am hyn gan ddefnyddio'r manylion cysylltu isod.

Sut mae gwneud cais?

Mae modd i chi gyflwyno cais ar-lein a thalu'n electronig (os oes angen). Fel arall, mae modd i chi gael ffurflen gais drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Carfan Trwyddedu

Ty Elai,

Dwyrain Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301 

Cadarnhad ein bod ni wedi derbyn eich cais:

Os byddwch chi'n cyflwyno cais ar-lein, byddwch chi'n derbyn neges e-bost yn nodi bod eich cais yn cael ei brosesu.

Os byddwch chi'n anfon cais i'r Adran Trwyddedu, byddwch chi'n derbyn llythyr o gadarnhad bod eich cais yn cael ei brosesu o fewn saith diwrnod gwaith.

Os byddwch chi'n dod â'ch ffurflen gais i dderbynfa ein swyddfa, byddwch chi'n derbyn llythyr yn nodi bod eich cais yn cael ei brosesu o fewn saith diwrnod gwaith.

Proses apelio

Cysylltwch â'r Awdurdod Lleol yn gyntaf.

Mae gyda chi hawl i apelio i’r Llys Ynadon lleol os yw'ch cais am drwydded yn cael ei wrthod.

Cwyno / gwrthwynebu

Hoffech chi gyflwyno cwyn, naill ai am y cais trwyddedu neu am ein gweithdrefnau? Ffoniwch y Garfan Trwyddedu ar 01443 425001 a gofynnwch am Swyddog Trwyddedu.

Cofrestri cyhoeddus

I gael mynediad i'r gofrestr gyhoeddus, ffoniwch y Garfan Trwyddedu ar 01443 425001 i drefnu apwyntiad i weld y gofrestr yn ein swyddfeydd. Neu, anfonwch e-bost at Adran.Trwyddedau@rctcbc.gov.uk.

Rhagor o wybodaeth

Mae modd gweld copi o Ddeddf Casglu o Dŷ i Dŷ 1939 yn swyddfeydd y Cyngor. Mae modd i chi gael ffurflenni cais a chopïau o amodau safonol y Cyngor yno hefyd.