Skip to main content

Trwydded masnachu ar y stryd

Rhaid i unrhyw berson sy'n masnachu ar y priffyrdd o fewn Canol Tref Pontypridd fod wedi cael caniatâd Masnachu ar y Stryd gan yr Awdurdod yma. Mae hwn yn cael ei reoli gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, Rhan III Atodlen 4.
Does dim modd i neb fasnachu ar y strydoedd canlynol ym Mhontypridd heb gael caniatâd gan yr Awdurdod Trwyddedu yn gyntaf:
Pontypridd Streets
     

Stryd y Felin

Stryd Fawr

Stryd Taf

Penuel Lane

Fraternal Parade

Parkside Lane

Crossbrook Street

Heol Sardis

Broadway

Stryd y Bont

Gas Road

Ceridwen Terrace

A4223 tua'r dwyrain i gyffordd Stryd y Bont

A4223 tua'r gorllewin i gyffordd Stryd y Bont

Pont Fictoria

Stryd Catrin

Heol Gelliwastad

Stryd y Farchnad

Stryd yr Eglwys

Sion Street

Stryd Morgan

Stryd y Capel

Lôn ddienw i'r gogledd o 85 Stryd Taf

Lôn ddienw rhwng 92B a 93 Stryd Taf

Canolfan Siopa Dyffryn Taf

Crynodeb o'r rheoliadau

Bydd rhaid cyflwyno cais am drwydded i'r Awdurdod Lleol. Bydd modd rhoi trwydded ar ôl cwblhau archwiliadau penodol. Bydd rhaid talu'r ffi wrth gyflwyno'r cais, ac mae angen arnon ni ddau ffotograff lliw maint pasbort o'r ymgeisydd, ynghyd ag unrhyw gynorthwywyr sy'n cael eu henwi.

Meini prawf

  • Fydd hawl i werthu dim ond y nwyddau hynny sy'n cael eu nodi ar y drwydded.
  • Fydd hawl i fasnachu dim ond ar y diwrnodau, a rhwng yr amseroedd, sy'n cael eu nodi ar y drwydded.
  • Fydd hawl gan y masnachwr i fasnachu dim ond o'r safle sy'n cael ei nodi ar y drwydded.
  • Bydd rhaid i'r ardal sy'n cael ei meddiannu gan y masnachwr fesur 3 metr x 2 fetr neu'n llai.
  • Bydd rhaid i'r masnachwr gadw'r safle yn lân ac yn daclus, heb ddim sbwriel, ar bob adeg.
  • Bydd rhaid i'r masnachwr gydymffurfio â holl ofynion Deddf Diogelwch Bwyd 1990 a Chyfraith Hylendid Bwyd Ewropeaidd.
  • Bydd rhaid i'r holl fasnachwyr bwyd gofrestru eu busnesau bwyd gyda'r Awdurdod perthnasol o leiaf 28 diwrnod cyn dechrau masnachu.
  • Ddylai deiliad y drwydded ddim ymgymryd ag unrhyw weithred/weithgaredd (gan gynnwys masnachu o'r safle) sydd, ym marn y Cyngor, yn achosi rhwystr yn y stryd neu'n achosi perygl, niwsans neu anghyfleustra i'r Cyngor neu i berchnogion neu feddianwyr unrhyw safle cyfagos, neu i aelodau o'r cyhoedd.
  • Ddylai'r masnachwr na'i gynorthwy-ydd ddim cloddio neu wneud tolciau o unrhyw fath o gwbl yn wyneb y briffordd, na rhoi neu osod offer o unrhyw fath o gwbl ar yr wyneb neu yn yr wyneb hwnnw.
  • Bydd rhaid i fasnachwr ddangos ei Drwydded Masnachu ar y Stryd, ynghyd â dogfen adnabod sy'n cynnwys enw, cyfeiriad a dyddiad geni, i unrhyw swyddog cymwys o'r Cyngor neu unrhyw swyddog yr heddlu ar ddyletswydd. Bydd rhaid gwisgo bathodynnau adnabod ar bob adeg wrth fasnachu.
  • Mae copi o'n hamodau llawn ar gael gan Garfan Trwyddedu'r Cyngor – gweler y manylion cyswllt isod.

Sut mae gwneud cais?

Erbyn hyn, mae modd i chi gyflwyno cais am drwydded ar-lein.

Mae ffurflenni cais ar gael trwy gysylltu â ni neu drwy lenwi cais ar-lein gan ddefnyddio'r manylion isod.

Carfan Trwyddedu

Ty Elai,

Dwyrain Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY 

Ffon: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301 

Costau

Rhaid talu ffi i wneud cais. Rhaid talu'r ffi wrth gyflwyno'r cais. Dyma'r manylion:

Costs
MathTAmserCost

Rhoi trwydded

12 mis

£1,105

Rhoi trwydded

6 mis

£645

Rhoi trwydded

3 mis

£371

Adnewyddu trwydded

12 mis

£920

Adnewyddu trwydded

6 mis

£550

Adnewyddu trwydded

3 mis

£325

Cadarnhad ein bod ni wedi derbyn eich cais

Os byddwch chi'n cyflwyno cais ar-lein, byddwch chi'n derbyn cadarnhad unwaith ein bod ni wedi derbyn y taliad yn llwyddiannus. Byddwch chi, wedyn, yn derbyn neges e-bost yn nodi bod eich cais yn cael ei brosesu.

Os byddwch chi'n anfon cais i Adran Trwyddedu'r Cyngor, byddwch chi'n derbyn llythyr yn cadarnhau bod eich cais yn cael ei brosesu, ynghyd â derbynneb, o fewn saith diwrnod gwaith.

Os byddwch chi'n dod â'ch ffurflen gais i dderbynfa ein swyddfa, byddwch chi'n derbyn derbynneb ar unwaith ac, o fewn saith diwrnod gwaith, byddwch chi'n derbyn llythyr yn cadarnhau bod eich cais yn cael ei brosesu.

Er budd y cyhoedd, mae rhaid i'r Awdurdod brosesu'ch cais cyn iddo fe gael ei gymeradwyo. Os na fyddwch chi wedi derbyn ymateb o fewn amser rhesymol, cysylltwch â'r Cyngor gan ddefnyddio'r manylion isod

Proses apelio

Os bydd unigolyn yn anfodlon ar benderfyniad i wrthod unrhyw gais am drwydded, neu'n anfodlon ar unrhyw un o'r amodau sydd ynghlwm wrth y drwydded, bydd hawl ganddo apelio i Lys yr Ynadon. Bydd modd i'r Llys roi cyfarwyddyd ynghylch y drwydded neu'r amodau, fel y gwêl yn briodol.

Cwyno / gwrthwynebu

Hoffech chi gyflwyno cwyn, naill ai am Fasnachwr Stryd sydd wedi'i drwyddedu neu heb ei drwyddedu, neu am ein gweithdrefnau? Ffoniwch y Garfan Trwyddedu ar 01443 425001 a gofynnwch am Swyddog Trwyddedu.

Cofrestri cyhoeddus

I gael mynediad i'r gofrestr gyhoeddus, ffoniwch y Garfan Trwyddedu ar 01443 425001 i drefnu apwyntiad i weld y gofrestr yn ein swyddfeydd. Neu, anfonwch e-bost at Adran.Trwyddedau@rctcbc.gov.uk.