Skip to main content

Elusen Edward Thomas

Yn ei Ewyllys, dyddiedig 20 Chwefror 1678, rhoddodd Edward Thomas fferm Tir-y-Dduallt ym Mhlwyf Llanwynno i'w nai a'i etifeddion. Roedd yr ewyllys ar yr amod fod yr etifeddion yn talu £5 i ddau warden eglwys a phedwar goruchwyliwr y tlawd ar gyfer Llanwynno bob blwyddyn ar ddiwrnod Sant Tomos (21 Rhagfyr). 
Edward-Thomas-1

Byddai'r cynrychiolwyr yma'n rhannu'r arian rhwng deg o bobl deilwng plwyf Llanwynno, oedd heb dderbyn arian gan y plwyf. 

Parhaodd hyn tan 1927 pan gymerodd yr awdurdod lleol gyfrifoldeb fel goruchwyliwr y tlawd. Ers hynny bu hen Gyngor Dosbarth Trefol Aberpennar, yna Cyngor Bwrdeistref Cwm Cynon a nawr Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yn penodi pedwar aelod i weithredu fel ymddiriedolwyr ar gyfer yr elusen. 

 

Images: St Gwynno’s Church, Llanwynno

Bob blwyddyn ar 21 Rhagfyr am 12 canol dydd, mae pedwar ymddiriedolwr y Cyngor ar y cyd â dau warden eglwys sy'n ymddiriedolwyr a Ficer Llanwynno yn dewis deg o bobl y plwyf a chyflwyno 50 ceiniog yr un iddyn nhw.

Ers 2005 mae buddiolwyr wedi cael eu dewis ar y sail eu bod yn bobl sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl ym mhlwyf Llanwynno. 
Bydd yr ymddiriedolwyr yn dewis 10 buddiolwr a bydd y rhain yn derbyn darn arian 50 ceiniog o fathiad cyfyngedig gan y Bathdy Brenhinol mewn blwch cyflwyno i gydnabod eu cyfraniad. 

Lluniau: Eglwys Sant Gwynno, Llanwynno