Skip to main content

Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol

Mae'n ofynnol i'r Cyngor, yn unol â Dyletswyddau Cydraddoldeb Cymru, adrodd yn flynyddol ynglŷn â sut mae e wedi cyflawni'r Ddyletswydd Cydraddoldeb Cyffredinol sydd wedi'i nodi yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Mae modd lawrlwytho'r ddogfen o'r dudalen hon ac mae'n cynnwys yr wybodaeth sydd ei hangen er mwyn i'r Cyngor fodloni’r dyletswyddau yma.

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn mynnu bod pob un o'r awdurdodau cyhoeddus sy'n gorfod cydymffurfio â dyletswyddau penodol Cymru, yn cyhoeddi adroddiad cydraddoldeb blynyddol erbyn 31 Mawrth bob blwyddyn. 

Mae'r rheoliadau yn mynnu'r canlynol:

Rhaid bod adroddiad 2022/23 yn nodi:

  • Camau y mae'r awdurdod wedi'u cymryd er mwyn nodi a chasglu'r wybodaeth berthnasol
  • Sut mae'r awdurdod wedi defnyddio'r wybodaeth yma wrth fodloni 3 nod y ddyletswydd gyffredinol
  • Unrhyw resymau dros beidio â chasglu'r wybodaeth berthnasol
  • Datganiad ar ba mor effeithiol yw trefniadau'r awdurdod ar gyfer nodi a chasglu'r wybodaeth berthnasol
  • Gwybodaeth benodol ynglŷn â chyflogaeth, gan gynnwys gwybodaeth am hyfforddiant
  • Cynnydd o ran cyflawni pob un o amcanion cydraddoldeb yr awdurdod
  • Datganiad o ba mor effeithiol yw camau gweithredu'r awdurdod tuag at gyflawni pob un o’i amcanion cydraddoldeb.

Am fanylion llawn yr adroddiad, darllenwch  Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol (pdf).

Pe hoffech chi ragor o wybodaeth neu gopi o’r adroddiad mewn iaith amgen, ffoniwch y garfan Amrywiaeth a Chynhwysiant ar 01443 444531, neu e-bostio cydraddoldeb@rctcbc.gov.uk.