Skip to main content

Glo a Chymuned yng Nghymru: cyn, yn ystod ac ar ôl Streic y Glowyr

 
 
Lleoliad
Rhondda Heritage Park
Date(s)
Dydd Mercher 6 Mawrth - Dydd Gwener 31 Mai 2024
Cyswllt
01443 682036
E-bost: RHPReception@rctcbc.gov.uk
Disgrifiad
Facebook Event Graphic 465 x 465 WELSH

Ymunwch â ni i goffáu 40 mlynedd ers Streic y Glowyr wrth i ni fyfyrio ar ei gwaddol parhaus gydag arddangosfa newydd sbon.

Bydd yr arddangosfa, sy’n rhad ac am ddim, yn agor ar 6 Mawrth, ac mae'n cynnwys delweddau gan y ffotograffydd llawrydd Richard Williams a sylweddolodd yn ystod ei arddegau ei fod yn dyst i ddirywiad diwydiant glo De Cymru, a theimlai fod rhaid iddo ddogfennu'r cyfnod cythryblus yma yn hanes ein cenedl.

Mae ei ddelweddau'n cynnig cipolwg ar y cyfnod yn arwain at Streic y Glowyr 1984-85 ac ar ôl hynny. Trwy ei lens, mae Williams yn dal emosiynau a realiti cymunedau glofaol, gan arddangos cydnerthedd yn wyneb dirywiad diwydiannol.

O flynyddoedd olaf ingol y diwydiant i'r cynnwrf a achoswyd gan fwyngloddio brig, mae ffotograffau Williams yn rhoi darlun byw inni, gan ddatgelu'r effaith ddofn ar fywoliaeth a chymunedau.

Ac yntau wedi'i eni ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae Richard yn gyn-ffotograffydd a golygydd lluniau o'r Pontypridd Observer a'r Western Mail.

Ymunwch â ni i goffáu 40 mlynedd ers y streic wrth i ni fyfyrio ar ei gwaddol parhaol. Trwy lens Williams, archwiliwch hanes cyfoethog ac ysbryd parhaol de Cymru – sy'n dyst i gryfder ei phobl yn wyneb adfyd.

Dysgwch ragor am Glo a Chymuned yng Nghymru, yma: www.richardwilliamsphoto.co.uk/miners-strike