Skip to main content
 

Academi Chwaraeon Rhondda Cynon Taf

Pwy ydyn nhw a beth ydyn nhw'n ei wneud?

Gweithlu elît a dethol o fyfyrwyr sydd wedi'i ddewis gan adran Chwaraeon Rhondda Cynon Taf i gefnogi ac arwain prosiectau allweddol, gweithio ochr yn ochr â phartneriaid o Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol, Addysg, Hamdden ac Iechyd.

Bydd aelodau o'r Academi yn rheoli rhaglenni megis y rhai Mwy Galluog a Thalentog, Rhaglenni Gweithredu Cymunedau yn Gyntaf, Cynlluniau Hyfforddi Arweinyddiaeth a phrosiectau Datblygu Clwb.

Bydd cyfle hefyd i roi cymorth mentora yn gefn i lysgenhadon ifainc a myfyrwyr sydd ar leoliad gwaith o'r coleg a'r brifysgol.

Pa gymorth sydd ar gael?

  • Profiad o ddatblygu chwaraeon
  • Cyfleoedd hyfforddi
  • Gwisg Chwaraeon Rhondda Cynon Taf
  • Mentora
  • Cyfle i fod yn rhan o Bwyllgor Llywio Chwaraeon Rhondda Cynon Taf
  • Profiad o reoli prosiectau
  • Dilyniant i swyddi sy'n talu cyflog
  • Cynllun Gwirfoddoli Rhondda Cynon Taf – yn gysylltiedig â dyfarniad cydnabyddedig

Sut galla i gymryd rhan?


Anfonwch eich curriculum vitæ gyda llythyr eglurhaol at chwaraeonrhct@rctcbc.gov.uk   dan y teitl Academi Chwaraeon Rhondda Cynon Taf

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas