Skip to main content
 

Llwybr Chwaraewch Ran

 

Mae llwybr Chwaraewch Ran yn rhoi cyfle i bawb gynnal gweithgaredd chwaraeon a chorfforol yn Rhondda Cynon Taf. Beth bynnag fo'ch oedran, gallu neu brofiad, mae modd ichi gyfrannu at gael rhagor o bobl i fod yn fwy heini yn fwy rheolaidd, a chithau, yn eich tro, yn ennill profiad gwerthfawr, cyfleoedd hyfforddiant a chymorth gan adran Chwaraeon Rhondda Cynon Taf.
 

Mae chwe haen o weithlu o fewn Llwybr Chwaraewch Ran:

Llysgenhadon Ifainc ac Arweinwyr Ysgolion

Mae gan Chwaraeon Rhondda Cynon Taf dros 150 o Lysgenhadon Ifainc yn gweithio mewn ysgolion a chymunedau. Maen nhw'n fodelau rôl ac arweinwyr mewn chwaraeon sy'n gweithio i hybu cymryd rhan mewn chwaraeon a ffyrdd iach o fyw.

Mae ysgolion cynradd hefyd yn rhedeg rhaglenni arwain i ddatblygu Arweinwyr Ysgol i hybu a chyflwyno chwaraeon yn eu hysgol.

Addysg Bellach a Addysg Uwch

Mae gan Goleg y Cymoedd sawl cwrs chwaraeon ar gael yn Aberdâr, Nantgarw ac Ystrad Mynach. Mae myfyrwyr yn gweithio tuag at gymwysterau BTEC Lefel 1, 2 a 3, gyda rhai'n canolbwyntio ar rygbi'r gynghrair, rygbi undeb a phêl-droed. 

Mae Prifysgol De Cymru, ar gampws Pontypridd, yn rhedeg nifer o gyrsiau gradd mewn chwaraeon. Bydd myfyrwyr yn cael profiadau gwaith mewn ysgolion ac yn y gymuned gydag adran Chwaraeon Rhondda Cynon Taf yn rhan o'u modylau ym Mlwyddyn 2 a 3. Bydd myfyrwyr yn cwblhau cyfnod profiad gwaith o naill ai 40, 70 neu 140 o oriau yn yr ysgol neu yn y gymuned, ac yn rhoi cymorth i ddarparu ystod o raglenni a phrosiectau. 

Gwirfoddolwyr yn y Gymuned

Mae dros 300 o glybiau chwaraeon yn Rhondda Cynon Taf yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd cynhwysol ar gyfer pobl o bob oed a gallu. Mae miloedd o bobl ar draws Rhondda Cynon Taf yn chwarae eu rhan drwy roi o'u hamser i hyfforddi, golchi gwisg chwaraeon, rheoli timau, cadeirio cyfarfodydd a'r holl bethau eraill mae angen eu gwneud mewn clwb prysur.

Mae calendr hyfforddi'r gweithlu ar gael i holl wirfoddolwyr y clybiau chwaraeon. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Teulu

Mae cefnogaeth a dylanwad y teulu yn chwarae rhan bwysig yng ngweithgaredd corfforol plentyn. Yn ystod blynyddoedd cynnar plentyndod, mae modd i rieni ac aelodau agos eraill o'r teulu helpu i ddatblygu arferion ac agweddau cadarnhaol at chwaraeon neu weithgaredd corfforol. Mae cefnogaeth y teulu yn hanfodol, boed wrth annog gweithgarwch corfforol trwy chwarae ar y traeth neu'r parc - neu alluogi a chyllido sesiynau chwaraeon strwythuredig. Mae rhai rhieni'n dewis gwirfoddoli yng nghlwb chwaraeon eu plentyn, ond bydd pob rhiant yn chwarae rhan ac yn dangos ymrwymiad drwy fynd a'i blentyn i'r clwb. Mae modd i arferion cadarnhaol, iach sy'n cael eu trosglwyddo gan aelodau o'r teulu sicrhau bod gan blentyn y sgiliau, yr hyder a'r cymhelliant i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol drwy gydol ei oes. 

Ydych chi'n chwilio am ffyrdd i'ch teulu fod yn fwy egnïol? Cliciwch yma i gael gwybodaeth, syniadau ac adnoddau.

Gwirfoddolwyr Chwaraeon RhCT

Bydd gwirfoddolwyr Chwaraeon RhCT yn ein helpu i gefnogi a darparu sesiynau chwaraeon ar draws Rhondda Cynon Taf. Croesawn bobl sy wrthi'n gwirfoddoli yn ogystal â'r rheiny sy eisiau dechrau gwirfoddoli am y tro cyntaf. Does dim ots ble rydych chi'n byw neu pa brofiad sy gyda chi, gallwn ni eich helpu chi i chwarae rhan. Ewch i'n tudalen Cofrestru i wirfoddoli am fanylion llawn.

Carfan Hyfforddi Chwaraeon Rhondda Cynon Taf 

Mae Carfan Hyfforddi Chwaraeon Rhondda Cynon Taf yn cynnig gweithgareddau aml-gampau hwyl a chynhwysol. Mae'r hyfforddwyr brwdfrydig a medrus yn gymwys i gynnal ystod eang o sesiynau i blant, pobl ifainc ac oedolion o bob oedran mewn ysgolion, canolfannau hamdden, clybiau chwaraeon ac yn y gymuned. 

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas