Skip to main content
 

Arweinyddiaeth

Llysgenhadon Ifainc

Mae'r Rhaglen Llysgenhadon Ifainc wedi cael ei hadnewyddu a'i hail-lansio ar gyfer 2023. Bydd y rhaglen yn dilyn llwybr pedair haen sy'n adlewyrchu taith datblygiad ac arweinyddiaeth y bobl ifainc hyd at eu lefel bresennol yn hytrach na’u hoedran. Mae llyfrau gwaith sy'n cynnwys gweithgareddau a heriau amrywiol ar bob lefel wedi cael eu creu. Mae modd i'r bobl ifainc gwblhau'r llyfrau yma yn eu hamser eu hunain. Bydd pobl ifainc yn cael eu hannog i gadw cofnod o’u cynnydd, a’i arddangos, mewn ffyrdd creadigol sy'n gweddu eu dysgu unigol. Diben y rhaglen yw datblygu arweinwyr Cymru'r dyfodol trwy chwaraeon, gweithgarwch corfforol a chwarae.

Bydd Llysgenhadon Ifainc yn defnyddio eu rolau i ysbrydoli, dylanwadu, mentora ac arwain o fewn eu hysgolion a'u cymunedau. Gyda'ch cymorth chi bydd modd i ni ddarparu cymorth parhaus sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i’r Llysgenhadon Ifainc fel bod modd iddyn nhw ddatblygu i fod yn arweinwyr ifainc hyderus a llawn cymhelliant sy'n meddu ar nifer o sgiliau. Rydyn ni'n awyddus iddyn nhw ddysgu sgiliau arweinyddiaeth drwy ddarparu cyfleoedd a phrofiadau cadarnhaol a gwerthfawr i wella eu sgiliau allweddol.

I gael trosolwg llawn o'r rhaglen, darllenwch: Mudiad Llysgenhadon Ifanc - Gweledigaeth i Gymru.

Bydd y Llysgenhadon Ifanc ledled Cymru yn dilyn y Llwybr Cynnydd sy’n cynnwys pedair haen (Efydd, Arian, Aur, a Phlatinwm) ac sy’n adlewyrchu siwrnai arweinyddiaeth a datblygiad y Llysgenhadon Ifanc dros amser. Gweld y llwybr cynnydd fel PDF.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Youth Sport Trust.

 

Academi Arweinyddiaeth Chwaraeon RhCT

Dod yn fuan!

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas