Skip to main content
 

Adnoddau Digidol

Citbag a Chwaraeon Cymru

Mae hwb Citbag dwyieithog Chwaraeon Cymru yn llawn syniadau sydd wedi’u hanelu at helpu athrawon i gynllunio sesiynau creadigol fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru. 

Mae Chwaraeon Cymru wedi ailgynllunio’r platfform, fel bod yr adnoddau’n cyd-fynd â Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles y Cwricwlwm i Gymru. 

Helpwch eich disgyblion i ddod yn unigolion iach a hyderus am oes drwy greu cyfrif a chael mynediad at yr adnoddau am ddim yn:citbag.sport.wales/cy/

 

Sesiynau Rhithwir

  • Sesiwn Rhithwir Bocsymarfer - fideo
  • Ffitrwydd Calan Gaeaf - fideo
  • Ffitrwydd Gŵyl - fideo

 

Fideo Hyfforddi

  • Gêm Cynffonnau - fideo
  • Gêm Stuck in the mud - fideo
  • Gêm Jailbreak - fideo
  • Gêm Oxo - fideo
  • Gêm Parau - fideo
  • Gêm Trysor Cudd - fideo
  • Gêm Cestyll Tywod - fideo
  • Gêm Bend it like Bale - fideo
  • Gêm Gateways - fideo
  • Gêm Duck splash - fideo
  • Gêm End zone - fideo
  • Gêm Tip and run - fideo
  • Gêm Domes and dishes - fideo
  • Gêm Coconuts - fideo
  • Gêm Fireball - fideo
  • Gêm Capture the flag - fideo
  • Gêm Overloads - fideo
  • Gêm Rush - fideo
  • Rasys Cyfnewid Coconyt - fideo
  • Gêm Precision passing - fideo

 

Gwaith Cartref Gweithgar

Mae ein llyfrau Gwaith Cartref Gweithgar wedi'u cynllunio'n ffordd hwyliog i'ch helpu chi i annog eich disgyblion i gadw'n heini y tu allan i'r ysgol. Maen nhw ar gael mewn fformat digidol ac ar bapur. Mae gyda ni nifer o dystysgrifau wedi'u cynllunio ymlaen llaw y mae modd i chi eu dyfarnu i'ch dosbarth ynghyd â thempled i chi greu eich gwobrau eich hun. Pe hoffech chi roi cynnig ar ein llyfrynnau Gwaith Cartref Gweithgar yn eich ysgol, anfonwch e-bost aton ni: Chwaraeonrhct@rctcbc.gov.uk.

 

Symud sy'n Bwysig

Adnodd a ddyluniwyd gan Chwaraeon RhCT i gael rhagor o blant i gadw'n heini ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf a chefnogi datblygiad llythrennedd corfforol yw Symud sy'n Bwysig. Rydyn ni eisiau i bob plentyn gael y sgiliau corfforol, yr hyder a'r cymhelliant i fod yn gorfforol weithgar am oes. Dyluniwyd cardiau gweithgareddau, a grëwyd o amgylch 6 thema gyffrous, yn adnodd i gefnogi cyflwyno gweithgareddau corfforol mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae modd chwarae'r gemau heb lawer o offer ac maen nhw'n addas ar gyfer ystod oedran eang o blant sydd heb ddechrau'r ysgol a phlant o oedran ysgol gynradd. Mae hyfforddiant ar gael ar sut i ddefnyddio'r adnodd hefyd.  Os hoffech chi ragor o wybodaeth am Symud sy'n Bwysig, dilynwch y ddolen neu e-bostiwch: Chwaraeonrhct@rctcbc.gov.uk.

 

Hwyl yn yr awyr agored

Mae gyda ni 27 o weithgareddau llawn hwyl! Rhowch gynnig ar rywbeth newydd. Cadwch yn heini. Dysgwch am fyd natur. Mynnwch olwg ar ein llyfryn Hwyl yn yr awyr agored.

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas