Mae cardiau adnoddau Symud sy'n Bwysig yn weithgareddau hwyliog y mae modd eu defnyddio i helpu plant i ymarfer Sgiliau Symud Sylfaenol. Mae modd rhannu'r Sgiliau yma'n dri chategori: Rydyn ni'n defnyddio sgiliau Ymsymud i symud o un lle i'r llall, sgiliau Rheoli'r Corff i reoli'r corff mewn gwahanol sefyllfaoedd, a sgiliau Trafod sy'n cynnwys symud neu ddefnyddio gwrthrych i gwblhau tasg â rheolaeth.
Edrychwch ar y tabl isod i weld rhai o'r sgiliau sy'n rhan o bob categori.
categori
Ymsymud
|
Trafod
|
Rheoli'r Corff
|
Cerdded
|
Taflu
|
Ymestyn
|
Rhedeg
|
Dal
|
Plygu
|
Neidio
|
Taro
|
Stopio
|
Neidio ar un goes
|
Cicio
|
Cadw cydbwysedd
|
Sboncio
|
Driblo
|
Glanio
|
Carlamu
|
Bownsio
|
Troelli
|
Ochrgamu
|
Gwthio
|
Troi
|
Sgipio
|
Tynnu
|
Rholio
|
Osgoi
|
Trapio
|
Dringo
|
Cyrsiau DPP Symud sy'n Bwysig AM DDIM
16 Hydref 2024 - Canolfan Chwaraeon Aberynon 13:30 - 15:30. Cofrestru YMA!
Anifeiliaid
Heriwch y plant i symud ac ymddwyn fel gwahanol anifeiliaid.
Sgiliau Symud Sylfaenol – Rheoli'r Corff, Ymsymud
Cuddiwch 'anifeiliaid' fel tedis, teganau neu luniau o anifeiliaid i blant ddod o hyd iddyn nhw ar eu saffari.
Sgiliau Symud Sylfaenol – Rheoli'r Corff, Ymsymud
Ceisiwch daro'r gwrthrychau ('dannedd teigr') gyda'r bêl.
Sgiliau Symud Sylfaenol – Trafod
Heriwch y plant i gadw eu 'wy' (e.e. pêl neu fag ffa) yn ddiogel rhwng eu pengliniau tra'u bod yn symud mewn gwahanol ffyrdd.
Sgiliau Symud Sylfaenol – Rheoli'r Corff, Ymsymud
Helpwch y ffermwr i gael yr 'anifeiliaid' yn ôl i'w corlannau trwy deithio i nôl yr anifeiliaid a'u rhoi nhw yn ôl mewn gwahanol ffyrdd.
Sgiliau Symud Sylfaenol – Ymsymud, Trafod
Straeon y Tylwyth Teg
Cuddio gwrthrychau a lluniau o dan y dail lili er mwyn i'r plant eu darganfod. Heriwch y plant i ddod o hyd i ddau o'r un peth.
Sgiliau Symud Sylfaenol – Ymsymud, Trafod
Heriwch y plant i gyrraedd y 'castell' cyn gynted â phosibl gan ddefnyddio gwahanol ddulliau o deithio. I wneud y gêm yn fwy heriol, ychwanegwch rwystrau i'r plant eu llywio neu ychwanegu sgiliau trafod fel driblo neu fownsio pêl.
Sgiliau Symud Sylfaenol – Ymsymud (mae modd ychwanegu Trafod a Rheoli'r Corff)
Rhaid i blant gasglu'r trysor heb ddeffro'r 'ddraig' (oedolyn).
Sgiliau Symud Sylfaenol – Ymsymud, Trafod
Mae'r plant yn ceisio rhyddhau'r dewiniaid gyda swyn hud yn y fersiwn yma o'r gêm 'tag'.
Sgiliau Symud Sylfaenol – Ymsymud
Galwch enw ffeuen. Rhaid i bawb wneud gweithred gyfatebol. Beth am fod yn greadigol a meddwl am enwau ffa a symudiadau newydd?
Sgiliau Symud Sylfaenol – Ymsymud, Rheoli'r Corff
Môr-ladron
Creu targedau ac annog plant i ymarfer eu sgiliau trafod i fwydo'r 'siarcod llwglyd' yn yr ardal darged. Ychwanegwch heriau sy'n ymestyn y plant trwy newid maint y targed neu ei bellter.
Sgiliau Symud Sylfaenol – Trafod
Rhaid i blant geisio cadw eu tlysau'n ddiogel trwy osgoi'r lleidr yn y fersiwn yma o'r gêm 'tag'.
Sgiliau Symud Sylfaenol – Ymsymud
Rhaid i'r plant ddawnsio a symud yn y 'môr'. Pan ddaw'r gerddoriaeth i ben, rhaid iddyn nhw ddod o hyd i ynys ddiogel.
Sgiliau Symud Sylfaenol – Ymsymud, Rheoli'r Corff
Heriwch y plant i ddefnyddio eu sgiliau ymsymud a thrafod i symud popeth o fwrdd y llong cyn iddi suddo.
Sgiliau Symud Sylfaenol – Ymsymud, Trafod
Gofynnwch i'r plant greu eu cwrs heriau eu hunain ac ymarfer 'cerdded y styllen'. Am her ychwanegol, beth am drio teithio ar draws y styllen mewn ffyrdd eraill?
Sgiliau Symud Sylfaenol – Ymsymud, Rheoli'r Corff
Awyrennau, Trenau a Cheir
Gosodwch un neu sawl targed fel garejys. Rhaid i'r plant symud eu holl 'gerbydau' yn ddiogel i'w garej(ys).
Sgiliau Symud Sylfaenol – Ymsymud, Trafod
Ar eich marciau. Barod? Ewch!
Mae'r plant yn symud o gwmpas yr ardal gan baru eu 'ceir' â smotiau o'r un lliw. Ar gyfer her ychwanegol, ydyn nhw'n gallu cadw eu cydbwysedd yn y fan a'r lle?
Sgiliau Symud Sylfaenol – Ymsymud, Rheoli'r Corff
Rhaid i blant achub cerbydau'n ddiogel wrth osgoi'r rhwystrau. I wneud y gweithgaredd yn fwy heriol, gofynnwch i'r plant symud y cerbydau mewn gwahanol ffyrdd (e.e. driblo, bownsio, rholio).
Sgiliau Symud Sylfaenol – Ymsymud, Rheoli'r Corff, Trafod
Gosodwch nifer o eitemau y mae'n rhaid i'r plant eu targedu gyda phêl neu fag ffa. Rhaid i'r plant gasglu pob gwrthrych maen nhw'n yn ei daro'n llwyddiannus i greu 'awyren' eu hunain.
Sgiliau Symud Sylfaenol – Ymsymud, Trafod
Gofynnwch i'r plant greu rhedfa. Bydd rhedfeydd ehangach a byrrach yn haws tra bydd rhedfeydd culach a hirach yn fwy heriol. Gallai rhedfeydd hyd yn oed fod yn llydan un pen ac yn gul y pen arall. Rhaid i'r plant symud gwrthrych o un pen i'r llall, gan ddefnyddio eu sgiliau trafod i'w gadw ar y rhedfa.
Sgiliau Symud Sylfaenol – Trafod
Ar lan y môr
Anogwch y plant i fod yn greadigol yn y gêm ddrych-ddelweddau yma.
Sgiliau Symud Sylfaenol – Ymsymud, Rheoli'r Corff
Gofynnwch i'r plant adeiladu tyrau ac ymarfer eu sgiliau trafod trwy geisio eu dymchwel.
Sgiliau Symud Sylfaenol – Trafod
Creu 'traeth prysur' trwy wasgaru eitemau yn yr ardal. Rhaid i'r plant lywio o gwmpas y traeth gan geisio osgoi'r gwrthrychau.
Sgiliau Symud Sylfaenol – Ymsymud, Rheoli'r Corff
Gofynnwch i'r plant wneud 'sgŵp hufen iâ' trwy ddal gwrthrych mewn côn wyneb i waered.
Sgiliau Symud Sylfaenol – Trafod
Rhaid i'r plant geisio cyrraedd y goleudy gan ddefnyddio gwahanol ffyrdd o deithio heb gael eu dal gan geidwad y goleudy. Os bydd ceidwad y goleudy yn troi ac yn fflachio ei olau ar y plant, rhaid i'r plant aros yn llonydd neu efallai y bydd yn eu dal nhw!
Sgiliau Symud Sylfaenol – Ymsymud, Rheoli'r Corff
Y Gofod
Rhaid i blant wrando'n ofalus ar y gorchmynion ac ymarfer neidio i'r awyr fel roced.
Sgiliau Symud Sylfaenol – Rheoli'r Corff
Gwasgaru eitemau o amgylch ardal fel 'sêr'. Gofynnwch i'r plant symud o gwmpas yr ardal heb gyffwrdd yn y sêr. Ar gyfer her ychwanegol, ychwanegwch bêl fel y 'lleuad' fel bod modd i'r plant ymarfer eu sgiliau trafod fel driblo neu fownsio.
Sgiliau Symud Sylfaenol – Ymsymud, Trafod
Gofynnwch i'r plant baru'r 'estron' i 'blaned' o'r un lliw i'w hanfon adref yn ddiogel.
Sgiliau Symud Sylfaenol – Ymsymud, Trafod
Gall plant ymarfer dal o wahanol uchderau a phellteroedd.
Sgiliau Symud Sylfaenol – Trafod
Gan ddefnyddio balŵns neu bêl falŵn, rhaid i'r plant geisio atal y lleuad rhag cwympo, gan ddefnyddio eu dwylo neu wrthrych o'u dewis (e.e. raced tennis).
Sgiliau Symud Sylfaenol – Trafod