Symudodd Beth Giles i hen Gapel y Methodistiaid a Neuadd Wesley gyfagos, ar Cowbridge Road, Pont-y-clun, ym mis Tachwedd 2014.
Bellach mae Giles Gallery yn arddangos dros 300 o artistiaid annibynnol lleol â'u darluniau, printiau, gemwaith, serameg, rhoddion, cardiau, tecstilau, llestri gwydr, gwaith coed, gwaith metel, broc môr a cherfluniau gwreiddiol.
Mae dosbarthiadau a gweithdai celf a chrefft rheolaidd yn galluogi unigolion i gyflawni eu potensial artistig a chreadigol mewn amgylchedd ysbrydoledig.
Mae Giles Gallery hefyd yn cyflenwi deunyddiau celf o ansawdd uchel, am bris cystadleuol.
Ar agor bum niwrnod yr wythnos – Mawrth–Sadwrn, 9am–5pm. Nosweithiau hwyr nos Fercher a nos Iau, tan 8:30pm.