Croeso i The Fulling Mill yn Nhonypandy
Os ydych chi am gael parti, gwylio chwaraeon neu gyfarfod â ffrindiau a'r teulu i gael tamaid i'w fwyta, The Fulling Mill yn Nhonypandy yw'r lle i ymlacio a mwynhau.
Mae gyda ni rywbeth at ddant pawb. Mae ein cinio rhost a phrydau traddodiadol fel pysgod mewn cytew a phastai stêc a chwrw ar gael bob dydd o'r wythnos.
Ar ben hynny, rydyn ni'n pobi ein toes ffres ein hunain bob dydd er mwyn i chi gael mwynhau pizza a bara garlleg ffres. Neu, mae gyda ni bob math o fyrgyrs a phrydau llysieuol - ac mae pob prif gwrs yn dod â llysiau, salad a phrydau bach diderfyn.
Ar agor 7 diwrnod yr wythnos o 8am tan 11pm.