Skip to main content

Atyniadau lleol

 

Lido Ponty

Mae Lido Ponty – Lido Cenedlaethol Cymru – yn sefyll ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, dim ond 20 munud o ganol dinas Caerdydd ac 20 munud o Aberdâr.

Mae Lido Ponty yn Adeilad Rhestredig Gradd II a gafodd ei agor yn wreiddiol ym 1927. Mae wedi'i adfer i'w ysblander blaenorol a chafodd ei agor i'r cyhoedd yn 2015. Erbyn hyn, mae'n atyniad poblogaidd i deuluoedd, ac yn croesawu ymwelwyr o bedwar ban byd.

Mae iddo dri phwll nofio cynnes sy'n cynnig cyfleoedd gwych i deuluoedd, nofwyr selog a nofwyr cymdeithasol o bob oed a gallu. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.lidoponty.co.uk

Parc Treftadaeth Cwm Rhondda

Mae Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, Trehafod, yn dystiolaeth fyw o gymunedau glofaol Cwm Rhondda. Mae'n cynnig golwg hynod ddiddorol ar ddiwylliant a chymeriad cyfoethog cymoedd de Cymru.

Gall ymwelwyr gwrdd â glowyr go iawn sydd, erbyn hyn, yn arwain ymwelwyr ar ‘Brofiad Tanddaearol’ unigryw. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.rhonddaheritagepark.com

Profiad y Bathdy Brenhinol

Cafodd Profiad y Bathdy Brenhinol ei agor ar safle'r Bathdy Brenhinol, Llantrisant, ym mis Mai 2016. Dyma'r atyniad diweddaraf yn y Fwrdeistref Sirol, sy'n denu ymwelwyr o dramor.

Dyma gyfle i chi gael mynediad heb ei debyg o'r blaen a darganfod y bobl a'r digwyddiadau y tu ôl i'r darnau arian yn eich poced. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.royalmint.com

Parc Gwledig Cwm Dâr

Croeso i 500 erw o gefn gwlad, teithiau cerdded, llwybrau a hwyl i'r teulu, i gyd o fewn milltir i Aberdâr.

Os ydych chi'n chwilio am bethau i'w gweld a gwneud yn Ne Cymru, mae gan Barc Gwledig Cwm Dâr ddigon i gynnig i chi a'ch teulu. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.darevalleycountrypark.co.uk

Distyllfa Wisgi Penderyn

'Roedd distyllu yng Nghymru yn gelfyddyd goll...'

Ond yn hwyr yn y 1990au cyn dyfodiad diwydiant, mewn tafarn yng nghymoedd Cymru, bu grŵp o ffrindiau yn yfed ac yn trafod sefydlu'r ddistyllfa gyntaf yng Nghymru ers dros ganrif. Buon nhw'n breuddwydio am greu wisgi mor bur a gwerthfawr ag aur Cymru. Dyna yw 'gold seam' Penderyn heddiw. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.welsh-whisky.co.uk

Amgueddfa Pontypridd

Mae’r amgueddfa wedi’i lleoli mewn hen gapel a gafodd ei godi ym 1861, ac mae’r ganolfan yn adrodd hanes y dref a’i phobl.

Mae'r hen Gapel Bedyddwyr Cymraeg, sy'n sefyll wrth ymyl Hen Bont eiconig y dref, yn  cynnwys modelau o gamlesi, pyllau glo a rheilffyrdd lleol ac archif o ffilmiau a lleisiau sy'n gofnod o hanes yr ardal. Mae organ bib ragorol yn dal i gael ei defnyddio yn ystod perfformiadau achlysurol yn yr amgueddfa. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.pontypriddmuseum.cymru

Amgueddfa Crochendy Nantgarw

Am ddau gyfnod byr sef 1813-14 a 1817-20, bu William Billingsley a'i deulu yn cynhyrchu rhai o borslen gorau'r byd. Mae Ymddiriedolaeth Crochendy Nantgarw yn elusen sy'n diogelu treftadaeth hanesyddol, bensaernïol a lluniadol yr adeiladau yn Nantgarw i'r bobl hynny sy'n cydnabod pwysigrwydd porslen Nantgarw yn hanes gweithgynhyrchu seramig. Mae'r ymddiriedolaeth yn hyrwyddo ac yn ennyn diddordeb ym mhorslen Nantgarw hefyd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.nantgarwchinaworksmuseum.co.uk