Amser: 10:30–14:00
Yn rhan o Ŵyl Gerdded Cymoedd Cymru 2017, rydyn ni'n falch iawn o gynnig y daith arbennig yma drwy goedwig Sant Gwynno. Bydd y daith gerdded yn mynd â chi i raeadr a chronfa ddŵr Cwm Clydach, ac yn galw heibio i ganolfan awyr agored Daerwynno am baned o de a bisgedi. Bydd y daith yn parhau i Eglwys Sant Gwynno a gwesty Brynffynnon cyn dychwelyd i'r man cychwyn.
Mae croeso i gŵn.
Gwisgwch esgidiau addas a dewch â lluniaeth gyda chi.
Maes Parcio Cyfoeth Naturiol Cymru
Islaw Gwesty Brynffynnon
Llanwynno
CF37 3PH