Mae Siôn Corn ar y ffordd - a bydd e'n dod â lloriau sglefrio synthetig, globau eira a hwyl yr ŵyl gydag ef er mwyn lledaenu tipyn o hud Nadoligaidd yn Rhondda Cynon Taf.
Bydd ei helpwyr yng ngharfan achlysuron 'Be'sy mlaen' yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf yn lledaenu hwyl yr ŵyl yn nhrefi Porth, Tonypandy, Aberdâr, Glynrhedynog ac Aberpennar drwy gydol mis Tachwedd a mis Rhagfyr.
Bydd lloriau sglefrio synthetig i sglefrio arnyn nhw, glôb eira wedi’i chwythu â gwynt i gael hunlun ynddo, adloniant ar y stryd a reidiau ffair i blant. Yn ogystal â hyn i gyd, bydd Siôn Corn yn ei groto a bydd yn rhoi anrhegion i ymwelwyr - felly gwnewch yn siŵr bod gyda chi eich rhestr yn barod i’w rhoi iddo ef!
Mae achlysuron Nadolig yn RhCT bob amser yn ffordd wych i gael pawb i deimlo'n Nadoligaidd ac i ddechrau cyfri'r diwrnodau tan y Nadolig. Bydd Siôn Corn yn gwneud taith o amgylch y Fwrdeistref Sirol ac yn galw heibio i ganol sawl tref fel bod pawb yn cael cyfle i'w weld.
Mae'r achlysuron yma hefyd yn gyfle i arddangos ein trefi. Bydd modd parcio am ddim ym mhob tref sy'n cynnal achlysuron Nadolig yn RhCT eleni, a bydd amrywiaeth o siopau a lleoedd i fwyta er mwyn i chi allu siopa'n lleol a phrynu anrhegion bach. Beth am wneud diwrnod ohoni? Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen Parcio rhad ac am ddim dros y Nadolig y Cyngor.
Mae modd dod o hyd i ddyddiadau, amseroedd a lleoliadau'r Gwyliau Gaeaf, yma:
Dyddiad
|
Tref
|
|
Amser
|
25 Tachwedd
|
Porth
|
Maes Parcio Plaza'r Porth
|
15:00 - 18:30
|
26 Tachwedd
|
Tonypandy
|
Maes Parcio Stryd De Winton
|
12:00 – 17:00
|
1 Rhagfyr
|
Aberdâr
|
Sgwâr Llyfrgell Aberdâr a'r Maes Parcio
|
15:00 – 18:30
|
2 Rhagfyr
|
Glynrhedynog
|
Maes Parcio Stryd y Leimwydden
|
15:00 – 18:30
|
3 Rhagfyr
|
Aberpennar
|
Maes Parcio Stryd Henry
|
12:00 – 17:00
|
|
|
|
|
Bydd y llawr sglefrio synthetig, glôb eira a reidiau ffair i blant yn £1 y pen (£1 y reid).
Bydd yn costio £2 y pen i ymweld â Groto Siôn Corn. Mae'r gost yna'n cynnwys anrheg.
Am y newyddion a gwybodaeth ddiweddaraf ar yr achlysuron yma, dilynwch dudalen Facebook, Twitter neu Instagram 'Be' sy mlaen' RhCT.
Mae'r Gwyliau Gaeaf yn cael eu noddi gan gwmni Nathaniel Cars. Mae ei staff cyfeillgar yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn darparu ceir i drigolion RhCT a thu hwnt am fwy na 35 mlynedd.