Skip to main content

Rhialtwch Calan Gaef

 
 
Lleoliad
Rhondda Heritage Park
Date(s)
Dydd Sadwrn 29 - Dydd Sul 30 Hydref 2022
Cyswllt
events@rctcbc.gov.uk
Disgrifiad
SpookENG 500x263

Efallai y bydd ychydig o bethau'n mynd o'r chwith yn y pwll glo'r mis nesaf, wrth i'r Rhialtwch Calan Gaeaf ddychwelyd i Daith Pyllau Glo Cymru, Parc Treftadaeth Cwm Rhondda. 

Ar 29 a 30 Hydref, gall ysbrydion a fampirod fwynhau Taith Arswydus Danddaearol, Helfa Bwmpenni ble fydd gwobrau i'w hennill, celf a chrefft, dwy reid fechan, golff gwyllt a llawer o hwyl â'r thema Calan Gaeaf. 

Bydd yr hwyl yn digwydd ar draws yr holl safle, gyda digonedd o addurniadau a llawer mwy er mwyn sicrhau awyrgylch sy’n frawychus o dda. 

Bydd yn costio £3.50 i blant gael mynediad at y Rhialtwch Calan Gaeaf a bydd hynny yn cynnwys yr helfa bwmpenni, celf a chrefft, ffair fach a golff gwyllt. 

Gall rhieni neu warcheidwaid sy'n dod gyda'r plant ddod i'r sesiynau yma’n rhad ac am ddim, a gallwch chi ddewis o ddau slot amser – 10am i 1pm, neu 2pm i 5pm. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n neilltuo o leiaf dwy awr i gwblhau'r holl weithgareddau ar y safle. 

Os ydych chi eisiau mynd i'r achlysur a chymryd rhan yn y gweithgareddau heb ymuno â'r daith arswydus – cliciwch yma i brynu tocynnau

Os ydych chi'n teimlo'n ddewr, gallwch chi hefyd ymuno â ni am Daith Arswydus Danddaearol.

Mae'r teithiau yn digwydd bob 20 munud, felly bydd gyda chi ddigon o amser yn ystod eich ymweliad i gymryd rhan os hoffech chi wneud hynny. Nodwch – Wrth brynu tocynnau, mae modd dewis Rhialtwch Calan Gaeaf, sef mynediad i'r achlysur a'r gweithgareddau yn unig. Fel arall, mae modd dewis Taith Arswydus sy'n cynnwys mynediad i'r achlysur, y gweithgareddau ac i'r daith. 

Mae'r Daith Arswydus Danddaearol yn costio £3.50 i bob person sy'n mynd o dan y ddaear.

Os ydych chi eisiau mynd i'r achlysur, cymryd rhan yn y gweithgareddau ac ymuno â'r daith arswydus – cliciwch yma i brynu tocynnau

Rhialtwch Calan Gaef gan Nathaniel Cars, sydd wedi bod yn gwerthu ceir i drigolion Rhondda Cynon Taf a thu hwnt ers mwy na 35 mlynedd. Mae gan y cwmni dibynadwy yma safleoedd yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr.