Skip to main content

Rasys Nos Galan

 
 
Lleoliad
Mountain Ash Town Centre
Date(s)
Dydd Sul 31 Rhagfyr 2023
Cyswllt
events@rctcbc.gov.uk
Disgrifiad
Nos Galan Body

Bydd lleoedd ar gyfer achlysur Rasys Nos Galan, sydd wedi ennill gwobrau, yn cael eu rhyddhau ym mis Medi 2023. 

Cafodd rownd gyntaf y lleoedd ei rhyddhau ddydd Llun, 11 Medi a chafodd pob lle ei fachu ar y diwrnod. Mae lleoedd ar gyfer y ras elît a'r rasys i blant ar gael i'w cadw ar y wefan.

Bydd lleoedd ar gyfer achlysur Rasys Nos Galan, sydd wedi ennill gwobrau, yn cael eu rhyddhau ym mis Medi. Yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol, bydd lleoedd ar gyfer cymryd rhan yn cael eu rhyddhau fesul cam, a hynny i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael cyfle i gadw lle ar yr achlysur y mae galw mawr amdano.

Dyma’ch cyfle i gymryd rhan yn un o achlysuron chwaraeon mwyaf unigryw a nodedig Cymru, gan redeg drwy strydoedd Aberpennar i ddathlu chwedl Guto Nyth Brân.

Bydd modd cadw lle ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Llun, 18 Medi – 1pm
  • Dydd Llun, 25 Medi – 6pm 

Ymunwch â’r rasys elît i ddynion a menywod, ras hwyl (gwisg ffansi yn ddewisol) a chategorïau rasys i blant ar y noson.

Yn ogystal ag achlysur sy'n dathlu cyflawniad chwaraeon, mae Rasys Nos Galan yn noson allan wych i'r teulu, gydag adloniant a thân gwyllt - yn ogystal â'r cyfle i weld y rhedwr dirgel. Pwy fydd y seren chwaraeon a fydd yn ymuno â ni yn 2023?

Mae eleni yn nodi 65 mlynedd ers dechrau Rasys Nos Galan, a sefydlwyd ym 1958 gan y diweddar Bernard Baldwin MBE i ddathlu’r chwedl leol Guto Nyth Brân. Fe oedd y dyn cyflymaf ar y ddaear a allai ddal aderyn yn ei ddwylo ei hun, yn ôl y sôn.

Cafodd y rasys eu hatal dros dro ym 1984, ond fe ddychwelodd yr achlysur yn fuan wedi hynny. Erbyn hyn mae'n denu dros 2,000 o redwyr o bob rhan o’r DU, gan gystadlu ar ystod o lefelau yn y rasys hanesyddol, yn ogystal â denu miloedd o gefnogwyr i strydoedd Aberpennar.

Mae'r achlysur yn dechrau gyda'r rasys i blant, cyn croesawu'r Rhedwr Dirgel enwog sy’n cario ffagl Nos Galan a'i thanio yng nghanol y dref. Mae rhedwyr dirgel blaenorol yn cynnwys Linford Christie, Nigel Owens, Chris Coleman, James Hook, Jamie Roberts, Nicole Cooke a llawer yn rhagor. Yn dilyn hyn, bydd arddangosfa tân gwyllt ysblennydd a rhywbeth arbennig ar gyfer 2023. Yna, ar eich marciau!... wrth i'r prif rasys gychwyn, gan gynnwys y rasys elît i ddynion a menywod a'r ras hwyl hynod o boblogaidd. 

I gael y newyddion diweddaraf am Rasys Nos Galan 2023, dilynwch Rasys Nos Galan ar Facebook.

A oes gyda chi ddiddordeb mewn cymryd rhan? Rydyn ni'n edrych am wirfoddolwyr i helpu i gynnal Rasys Nos Galan 2023 ar y noson. Os oes gyda chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli, e-bostiwch nosgalan@rctcbc.gov.uk