Skip to main content

Ysgolion Cymru yn Cofio Rhyfel ac Ymladd

 
 
Lleoliad
Rhondda Heritage Park
Date(s)
Dydd Gwener 28 Gorffennaf - Dydd Llun 18 Medi 2023
Cyswllt
DerbynfaParcTreftadeth@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Disgrifiad
War  Peace image

Mae’r arddangosfa yma'n cynnwys ymatebion gan chwe ysgol yn ne Cymru i’r cwestiwn dyrys o sut i goffáu rhyfel a gwrthdaro.

Gan weithio gyda’r hanesydd Dr Gethin Matthews o Brifysgol Abertawe a’r arlunydd Siôn Tomos Owen, mae’r plant ysgol wedi creu chwe chofeb newydd mewn ymateb i gofebion rhyfel lleol yn eu hardal. Mae eu creadigaethau lliwgar a thrawiadol yn cyfleu eu teimladau am golled hanesyddol ac osgoi gwrthdaro yn y dyfodol.

Mae'r arddangosfa yn gwahodd myfyrdod ar rôl gymhleth cofeb fel teyrnged goffa a stori rybuddiol. Wrth iddyn nhw ddarganfod effaith hirdymor gwrthdaro ar eu cymunedau, dewisodd y disgyblion ym mhob un o’r chwe ysgol, heb drafod gyda'i gilydd, greu ‘cofebion heddwch’, yn lle celf oedd yn gogoneddu rhyfel. 

Cafodd y prosiect yma ei ariannu gan Gronfa Etifeddiaeth 14-18 NOW yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol, rhaglen bartneriaeth ledled y DU o dros 20 o artistiaid dan gomisiwn a ysbrydolwyd gan dreftadaeth gwrthdaro. Dan arweiniad yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol, crëwyd Cronfa Etifeddiaeth 14-18 NOW yn dilyn llwyddiant 14-18 NOW, rhaglen gelfyddydau swyddogol y DU ar gyfer canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.