Mae Picnic y Tedis yn berffaith ar gyfer plant dan 5 oed, eu rhieni a’u cynhalwyr. Dewch i ddysgu rhagor am y cyfleoedd a’r gwasanaethau sydd ar gael i blant a theuluoedd yn Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys sut mae Gwasanaeth y Llyfrgelloedd yn ysbrydoli darllenwyr y dyfodol, sut i fanteisio ar ddarpariaeth gofal plant a gofal iechyd, a llawer yn rhagor.
Mae'r holl stondinau yn cynnig gwybodaeth sy’n berthnasol i deuluoedd a chynhalwyr sydd â phlant dan 5 oed. Bydd gweithgareddau rhyngweithiol ac ymarferol er mwyn i chi gael blas ar y gwaith maen nhw'n ei wneud.
Wedi'i noddi gan Nathaniel Cars