Croeso i fyd rhyfeddol Rod Stevens – un o Hypnotyddion Comedi mwyaf blaenllaw'r DU . Mae sioeau Hypnotig Rod Stevens yn ddoniol iawn ac mae ei ddulliau hypnoteiddio’n gyflym iawn. Dyma'r sioe gomedi hypnosis orau oll, mae'n weddus a doniol heb gynnwys iaith gref. Mae sioe Rod yn cynnwys dirgelwch, hud a lledrith ac adloniant heb ei ail - mae'n sicr o ehangu eich meddwl a gwneud ichi chwerthin.
Bydd yr elw'n mynd i Gôr Merched Taf-elái er mwyn inni barhau i ganu.