Mae Chwaraeon RhCT yn rhan o garfan Gwasanaethau Hamdden Cyngor Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni'n ymrwymo i helpu trigolion Rhondda Cynon Taf i fod yn fwy iach ac yn heini.
Rydyn ni'n datblygu cyfleoedd ymarfer corff lleol, cynhwysol a diogel mewn partneriaeth â chyfleusterau, clybiau chwaraeon, sefydliadau cymunedol, busnesau, ysgolion a Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol.
Ein Gwaith
Rydyn ni'n arddangos cipolwg o effaith ein gwaith gan ddefnyddio astudiaethau achos ysgrifenedig a fideo. Gwasgwch yma i weld rhai o'r prosiectau rydyn ni wedi'u cyflawni.
Tystebau
Rydyn ni'n gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid lleol a chenedlaethol. Mae'r partneriaethau yma'n hanfodol ar gyfer llwyddiant ein prosiectau. Cliciwch yma i ddarllen dyfyniadau gan rai o'n partneriaid allweddol.
Sbotolau Chwaraeon Rhondda Cynon Taf
Unwaith y mis, rydyn ni’n tynnu sylw at ysgolion, clybiau chwaraeon, grwpiau cymunedol a phrosiectau gwych sy'n annog mwy o bobl i fod yn fwy heini ledled Rhondda Cynon Taf yn rhan o’n hymgyrch Sbotolau Chwaraeon RhCT. Gwasgwch yma i weld Neuadd Enwogion Chwaraeon Rhondda Cynon Taf.
Y Garfan
Mae modd i chi weld aelodau o’n carfan a'u manylion cyswllt isod.
Chwaraeon Rhondda Cynon Taf,
Canolfan Chwaraeon Abercynon,
Parc Abercynon,
Abercynon,
CF45 4UY