Skip to main content
 

Ieuenctid (11-16 oed)

Cyngor ar gyfer y grŵp oedran yma

Mae ymchwil yn dangos bod pobl ifainc rhwng 14 a 16 oed yn debygol o ymddieithrio o weithgaredd corfforol. Os ydyn nhw'n gwneud hyn, maen nhw'n debygol o fod yn anweithgar pan fyddan nhw'n oedolion, sy'n eu rhoi ar risg o ddatblygu cyflyrau difrifol megis clefyd y galon a chanser. Mae'n bwysig eu bod nhw'n cadw'n weithgar a chreu arferion iach a fydd yn aros gyda nhw am weddill eu bywydau.

Mae angen i bobl ifainc wneud dau fath o weithgaredd corfforol bob wythnos; ymarfer erobeg ac ymarferion i gryfhau eu cyhyrau a'u hesgyrn. Dylen nhw fod yn weithgar am o leiaf 60 munud bob dydd, gan gymryd rhan mewn amrywiaeth o ymarferion er mwyn datblygu eu sgiliau symud, eu cyhyrau a'u hesgyrn.

I gael rhagor o wybodaeth sy'n ymwneud â gweithgaredd corfforol, ewch i: www.nhs.uk/live-well/exercise/physical-activity-guidelines-children-and-young-people

Syniadau ar gyfer gweithgareddau

Anogwch nhw i fod yn weithgar gyda ffrindiau wrth gymdeithasu a nhw a gadael iddyn nhw fod yn annibynnol.

Anogwch nhw i fod yn weithgar yn yr ysgol drwy gymryd rhan mewn clybiau a thimau.

Pan fyddan nhw'n troi'n 11 oed, mae pobl ifainc yn cael defnyddio campfeydd Hamdden am Oes RhCT. Anogwch nhw i roi cynnig ar ddosbarthiadau ffitrwydd sy'n addas at eu hoedran.

Beth am ddechrau rhedeg gyda'ch gilydd - 'Couch to 5K' efallai!

Rhowch gyfle iddyn nhw wneud llawer o weithgareddau gwahanol:

  • Nofio
  • Chwaraeon: pêl-droed, rygbi, hoci, pêl-rwyd, pêl-fasged, badminton, gymnasteg, tennis ac ati
  • Dawns a ffitrwydd
  • Cerdded a beicio
  • Ffitrwydd: sesiynau campfa a dosbarthiadau megis ioga neu ymarferion cylch

 

Rhaglen Chwaraeon yn y Gymuned

Nod ein Rhaglen Chwaraeon Cymunedol yw darparu ystod o gyfleoedd i bobl o bob oedran a gallu, ledled Rhondda Cynon Taf. Mae’r rhaglen isod wedi’i datblygu ar y cyd ag amrywiaeth o bartneriaid gan gynnwys Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol a chlybiau/grwpiau cymunedol. Ni sy'n cynnal rhai o'r sesiynau ac mae sesiynau eraill yn cael eu cynnal gan ein partneriaid. Cliciwch yma am y rhaglen lawn.

Clybiau Chwaraeon Cymunedol

Mae dros 300 o glybiau chwaraeon yn Rhondda Cynon Taf. Mae mwyafrif y clybiau hyn yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc 11-16 oed. Rydyn ni'n gweithio gyda'r clybiau hyn i sicrhau eu bod yn darparu gweithgareddau hwyl, diogel a chynhwysol i blant.

CLICIWCH YMA i weld ein Map Clybiau Chwaraeon a dod o hyd i glybiau chwaraeon yn eich ardal chi.
 

Clybiau chwaraeon ysgolion uwchradd

Rydyn ni'n cynorthwyo ysgolion uwchradd i ddatblygu clybiau allgyrsiol yn ystod amser cinio ac ar ôl ysgol. Mae gan fwyafrif yr ysgolion uwchradd amserlenni clybiau sy'n newid bob tymor. Mae'r clybiau hyn yn ffordd wych o roi cynnig ar chwaraeon newydd a dysgu sgiliau newydd. Siaradwch â'r Adran Addysg Gorfforol am fanylion llawn.

Mwy na Cherdyn

Mae Mwy na Cherdyn yn brosiect rydyn ni wedi'i ddatblygu i gynorthwyo pobl ifanc i ddelio â'r pwysau maen nhw'n eu hwynebu yn yr ysgol, yn enwedig o gwmpas amser arholiadau. Rydyn ni'n cynnig gweithgareddau ymarfer corff fel ffordd i wella eu hiechyd a'u lles, ac i frwydro yn erbyn straen a phryder. Mae atgyfeiriadau yn cael eu gwneud i ni gan staff mewn ysgolion uwchradd, yna mae'r bobl ifanc yn cael cymorth a chefnogaeth i gael mynediad i'r gampfa neu ddosbarthiadau gweithgareddau yng nghanolfannau hamdden RhCT. 

Hoffech chi gael manylion? Croeso i chi gysylltu â ni. 

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas