Skip to main content
 

Addysg Bellach / Addysg Uwch

Pwy ydyn nhw a beth ydyn nhw'n ei wneud? 

Mae gan Goleg y Cymoedd sawl cwrs chwaraeon ar gael yn Aberdâr, Nantgarw ac Ystrad Mynach. Mae myfyrwyr yn gweithio tuag at gymwysterau BTEC Lefel 1, 2 a 3, gyda rhai'n canolbwyntio ar rygbi'r gynghrair, rygbi undeb a phêl-droed. Yn rhan o'r cyrsiau yma, bydd myfyrwyr yn ennill cymwysterau hyfforddi chwaraeon a hyfforddwyr ffitrwydd. Caiff myfyrwyr gyfleoedd i wirfoddoli gydag adran Chwaraeon Rhondda Cynon Taf ar gyfer achlysuron, cystadlaethau a gwyliau.

Mae Prifysgol De Cymru, ar gampws Pontypridd, yn rhedeg nifer o gyrsiau gradd mewn chwaraeon. I gael gwybod pa gyrsiau maen nhw'n eu cynnig, ewch i: https://www.southwales.ac.uk/study/subjects/sport/.

Bydd myfyrwyr yn cael profiadau gwaith mewn ysgolion ac yn y gymuned gydag adran Chwaraeon Rhondda Cynon Taf yn rhan o'u modylau ym Mlwyddyn 2 a 3.

Bydd myfyrwyr yn cwblhau cyfnod profiad gwaith o naill ai 40, 70 neu 140 o oriau yn yr ysgol neu yn y gymuned, ac yn rhoi cymorth i ddarparu ystod o raglenni a phrosiectau. Byddan nhw hefyd yn rhoi cymorth gyda'r gwyliau, cystadlaethau ac achlysuron y mae adran Chwaraeon Rhondda Cynon Taf yn eu darparu.

 

Pa gymorth sydd ar gael?

  • Cyfleoedd lleoli
  • Profiad gwaith
  • Dilyniant posibl i'r garfan hyfforddi sy'n cael ei thalu
  • Cynllun Gwirfoddoli Rhondda Cynon Taf – yn gysylltiedig â dyfarniad cydnabyddedig
  • Mentora
  • Cyfle i gael eu dewis i Academi Rhondda Cynon Taf (addysg uwch yn unig)

 

Sut galla i gymryd rhan?

Yn dibynnu ar ble rydych chi'n astudio, bydd lleoliadau'n cael eu cynnig i chi gan eich tiwtor coleg neu'ch darlithydd ym Mhrifysgol De Cymru. Os hoffech chi siarad â ni yn uniongyrchol, anfonwch neges e-bost i chwaraeonrhct@rctcbc.gov.uk

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas