Mae angen o leiaf 10 person i gymryd rhan ym mhob cwrs ac mae hyn yn berthnasol i bob cwrs, waeth beth yw’r dewis iaith. Yn anffodus, os bydd llai na 10 o bobl, fydd y cwrs ddim yn rhedeg gan ei bod hi'n rhy ddrud i'w gynnal o dan y fath amgylchiadau. Gofynnwn yn garedig i chi hefyd rhoi digon o rybudd os na fyddwch chi'n gallu dod i ryw gwrs penodol rydych chi wedi cadw lle ar ei gyfer (5 diwrnod fan hwyraf), er mwyn inni benderfynu p'un ai i fwrw ymlaen â chynnal y cwrs neu beidio.