Skip to main content
 

Gwirfoddolwr y Mis

Cafodd cystadleuaeth Gwirfoddolwr y Mis Chwaraeon RhCT ei sefydlu ym mis Ionawr 2016 ac mae llawer o wirfoddolwyr gwych wedi cael eu gwobrwyo.

Beth yw hon?

Cystadleuaeth yw hi sy'n cydnabod gwirfoddolwr ym maes chwaraeon cymunedol sy'n byw neu'n gwirfoddoli yn Rhondda Cynon Taf.

Sut mae'n gweithio?

Mae Chwaraeon RhCT yn croesawu aelodau o'r cyhoedd i enwebu gwirfoddolwyr chwaraeon cymunedol i gydnabod y gwaith gwych maen nhw'n ei wneud. Bob mis mae Chwaraeon RhCT yn dewis person wedi'i enwebu a byddwn ni'n taflu goleuni ar y gwirfoddolwr chwaraeon llwyddiannus ar y cyfryngau cymdeithasol a rhoi taleb £50 iddo.

Sut mae cyflwyno cais / enwebu?

Cliciwch ar y ddolen isod i enwebu unigolyn. Peidiwch ag anghofio rhoi gymaint o wybodaeth ag sy'n bosib er mwyn rhoi'r cyfle gorau iddyn nhw!

Enwebwch nhw!

Nodwch: os ydy'r person rydych chi wedi'i enwebu yn ennill y gystadleuaeth byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth a/neu luniau rydych chi wedi'u rhoi er mwyn cydnabod ei waith ar gyfryngau cymdeithasol Chwaraeon RhCT. (Os bydd hyn yn broblem, rhowch wybod i ni adeg gwneud yr enwebiad).

 

Enillwyr blaenorol

Mae ein cystadleuaeth Gwirfoddolwr y Mis wedi rhedeg ers Ionawr 2016. Er mwyn bwrw golwg ar y rhestr lawn o enillwyr, cliciwch yma.

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas