Skip to main content
 

Grant Crowdfunder Chwaraeon Cymru

Beth yw Crowdfunder?

Mae Crowdfunder yn ffordd o godi arian at achosion a syniadau da, tra hefyd yn helpu eich clwb neu brosiect i gysylltu â'ch cymuned. 

Ar wefan Crowdfunder, mae pobl yn rhoi arian i gefnogi'r achos neu'r syniad. Yn gyfnewid am hyn, gall y sawl sy'n rhoi arian hefyd gael gwobr, a all fod yn gynnyrch, yn fudd-dal neu'n wasanaeth.

 

Beth fyddwn ni'n eigefnogi?

Mae Chwaraeon Cymru wedi ffurfio partneriaeth â Crowdfunder i gefnogi clybiau a gweithgareddau cymunedol i godi arian ar gyfer gwella cyfleusterau. 

Mae'r cynllun ar gyfer clybiau dielw a grwpiau cymunedol sy'n ceisio codi arian ar gyfer gwelliannau 'oddi ar y cae'. Er enghraifft: 

  • Ystafelloedd newid
  • Adnewyddu tai clwb
  • Gwell cyfleusterau cegin i sicrhau mwy o incwm
  • Raciau beiciau a storio
  • Lifftiau a rampiau ar gyfer gwell mynediad i bobl anabl
  • Paneli solar
  • Generaduron
  • Boeleri
  • Ffens newydd

Mae'r enghreifftiau uchod i gyd yn welliannau 'oddi ar y cae'. Os ydych chi'n chwilio am gyllid oherwydd caledi ariannol yn sgil y pandemig, neu os oes gennych syniadau ar gyfer gwella cyfranogiad 'ar y cae' yn eich clwb, edrychwch ar ein Cronfa Cymru Actif.

 

Sut mae'r cynllun hwn gyda crowdfunder yn gweithio?

Mae clybiau a sefydliadau yn sefydlu tudalen ar wefan Crowdfunder, sy'n gofyn i bobl roi arian i'r achos neu'r syniad.  

Mae Crowdfunder yn darparu cymorth a chyngor, gan gynnwys rhywun i'ch tywys drwy'r broses. 

Caiff eich prosiect Crowdfunder ei asesu gan Chwaraeon Cymru, a all benderfynu pa lefel o arian cyfatebol y byddwch yn gymwys i'w gael yn seiliedig ar y wybodaeth rydych wedi'i nodi.

Os yw'r dudalen Crowdfunder wedi cyrraedd meini prawf penodol, bydd Chwaraeon Cymru yn rhoi arian cyfatebol rhwng 30% a 50% o'r cyfanswm, hyd at uchafswm o £15,000 o arian cyfatebol.

Caiff canran Chwaraeon Cymru (30% - 50%) ei phennu yn seiliedig ar botensial prosiect i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau.

 

Pwy all wneud cais?

Bydd unrhyw glybiau dielw, sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol sy'n darparu neu'n galluogi chwaraeon a/neu weithgarwch corfforol yng Nghymru yn gymwys. 

Nid yw'r canlynol yn gymwys: 

  • Ysgolion, colegau neu brifysgolion
  • Unigolion ac unig fasnachwyr
  • Busnesau neu bartneriaethau masnachol
  • Gweithredwyr hamdden
  • Unrhyw sefydliadau a oedd yn defnyddio Cronfa Darparwyr Preifat Chwaraeon Cymru cyn hyn

 

Sut gallaf wneud cais?

Sefydlwch dudalen ariannu torfol ar gyfer eich prosiect a dewis yr opsiwn i gael eich ystyried ar gyfer cymorth Lle i Chwaraeon. Eich cais chi fydd y dudalen hon – nid oes angen gwneud cais i ni ar wahân.

 

Cael cymorth gyda'ch cais

Ewch i www.chwaraeon.cymru/grantiau-a-chyllid/crowdfunder/

Anfonwch e-bost atom ni: ChwaraeonRhCT@rhondda-cynon-taf.gov.uk  

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas