Skip to main content
chwarae

Chwarae

Mae dau fan chwarae ym Mharc Gwledig Cwm Dâr

Y tu allan i'r caffi a'r Ganolfan Ymwelwyr mae man chwarae bach, caeedig i blant bach gyda sleid a thŷ chwarae.  Dyma'r lle perffaith i eistedd a mwynhau paned wrth i chi gadw golwg ar eich plant.

Play-ground
Rope-Swing

Ychydig y tu hwnt i hyn, mae ardal antur fawr gyda siglenni a sleidiau, caer bren, ynghyd â thrampolinau bach wedi'u gosod i'r ddaear.  Mae yna feiciau a cheir gwthio i'r rhai bach, tyrau i'w dringo a chyrsiau rhwystrau rhaff i'w dilyn.

Dyma fan diogel, agored - gwych er mwyn i blant bach ddefnyddio eu hegni a symud o gwmpas.

tree-house
Girl-playing-in-park

Prynwch goffi neu hufen iâ o'r caffi ac ymlaciwch ar un o'r meinciau sy'n amgylchynu'r man chwarae.

Mae plant wrth eu bodd â'r maes chwarae antur ym Mharc Gwledig Cwm Dâr.