Gallwch chi ddod o hyd i Caffi Cwtsh ger mynedfa Parc Gwledig Cwm Dâr. Mae'r Caffi wedi'i enwi'n Cwtsh am fod croeso cynnes i ymwelwyr yn ogystal â phryd poeth!
Yn ychwanegol â gweini cinio a byrbrydau poeth ac oer, mae'r fwydlen yn y caffi yn cynnwys dewis eang o fwyd cartref cysurus megis pastai cig eidion tun a phastai caws a thatws. Mae hufen ia a melysion ar gael hefyd ac mae te prynhawn yn cael ei weini ar y lledlawr.
Nodwch fod rhaid cadw lle ar gyfer te prynhawn.
Mae Cwm Dâr yn eithriadol o boblogaidd gyda'n cyfeillion sy'n cyfarth ac ymwelwyr, mae ardal gyfeillgar i gŵn hefyd. Yn amlwg dydy cŵn ddim yn cael mynd i'r ardal chwarae o flaen y caffi, o ganlyniad, defnyddiwch fynedfa'r buarth wrth ymweld.
Er mwyn cadw lle ar gyfer te prynhawn neu os oes gyda chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â 07900 042308.