Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Llwybrau llafar

 

Gweld y llwybrau llafar sydd ar gael yn Rhondda Cynon Taf

Llwybr Llafar Aberdâr

Ar Lwybr Llafar Aberdâr mae aelodau Cymdeithas Hanes Cwm Cynon yn cynnig cipolwg unigryw ar hanes y dref.

Llwybr Llafar Cwm Hafod

Mae'r llwybr llafar yn cynnwys lleisiau haneswyr lleol a chyn-lowyr sy'n eich tywys ar daith ddiddorol o gwmpas pyllau glo enwog Cwm Rhondda.

Llwybr Llafar Hirwaun

Yng nghwmni ysbryd William Bryant, cyn-weithiwr yng Ngwaith Haearn Hirwaun, ar y llwybr llafar yma cewch chi gipolwg difyr i chi ar ei fywyd a hanes y dref haearn gynt, a gafodd ei sefydlu yn y 18fed ganrif.

Llwybr Llafar Llantrisant

Wedi'i leoli yn nhref hyfryd Llantrisant a oedd yn gadarnle pwysig yn yr Oesoedd Canol, bydd y llwybr llafar yma yn rhoi cipolwg difyr i chi ar hanes Llantrisant.

Llwybr Llafar Pontypridd

Awydd darganfod hanes Pontypridd, tref a anwyd yn y chwyldro diwydiannol?